Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae masnach yn benderfynydd masnachol allweddol o iechyd ac mae’n effeithio ar bawb yng Nghymru. Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yw un o’r cytundebau masnach rydd mwyaf yn y byd, sy’n cynnwys un ar ddeg o wledydd ar bedwar cyfandir ac roedd yn cyfrif am £96 biliwn o fasnach y Deyrnas Unedig yn 2018 (7 y cant o gyfanswm masnach y Deyrnas Unedig). Daeth CPTPP i rym ar 30 Rhagfyr 2018, a phwysleisiodd aelodau presennol eu bod yn benderfynol o ymestyn y cytundeb gydag aelodau newydd yng nghyfarfod comisiwn CPTPP ar 19 Ionawr 2019.

Gallai CPTPP ddylanwadu ar ystod o faterion iechyd cyhoeddus ar draws penderfynyddion cymdeithasol iechyd ac effeithio ar wahanol boblogaethau mewn gwahanol ffyrdd. Gall Asesiad o’r Effaith ar Iechyd fod yn offeryn pwysig i asesu effeithiau posibl cytundebau masnach ar iechyd a lles. Bydd y weminar hon yn trafod canfyddiadau’r asesiad o effaith CPTPP ar iechyd ar gyfer Cymru gyda phwyslais ar effeithiau ar iechyd, lles a thegwch.

Ymunwch â’n panel o arbenigwyr i gael gwybod am yr ail Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a gynhaliwyd ar CPTPP yn y byd.

Deilliannau Dysgu:

  • meysydd gwerth Asesiad o’r Effaith ar Iechyd mewn masnach,
  • y goblygiadau i Gymru a’r Deyrnas Unedig,
  • sut gallwn ddefnyddio’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (eiriolaeth) a safbwyntiau gan gynrychiolwyr gwahanol sefydliadau,
  • ffurf bosibl cytundeb masnach economi les.

Cadeirydd:

  • Liz Green – Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol / Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Siaradwyr:

  • Louisa Petchey – Uwch Arbenigwr Polisi a Rheolwr Tîm Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Leah Silva – Uwch Swyddog Datblygu Polisi a Thystiolaeth Ryngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Courtney McNamara – Darlithydd Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Newcastle
  • Margaret Douglas – Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus yr Alban
  • Aileen Burmeister – Pennaeth Cymru Masnach Deg
  • Alan Winters – Athro Economeg, Ysgol Fusnes Prifysgol Sussex / Cydgyfarwyddwr, y Ganolfan Polisi Masnach Cynhwysol / Cymrawd a Chyfarwyddwr Sefydlol, Arsyllfa Polisi Masnach y Deyrnas Unedig

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Asesiad Effaith Iechyd o Bartneriaeth Cynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)

, 2MB

Llawrlwytho - Asesiad Effaith Iechyd o Bartneriaeth Cynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) (2 MB)

Llawrlwytho

Gwerthusiad Gweminar

PDF, 430KB

Llawrlwytho PDF - Gwerthusiad Gweminar (430 KB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad