Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd – dysgwch sut gallwch chi a’ch tîm weithredu

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Banner promoting an environmental workshop with a large globe on the right, a row of colorful interlocking gears with eco icons on the left, and logos of Welsh health and sustainability organizations at the top; includes Welsh text mentioning sustainability themes.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaeth strategol newydd: mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus newid yn yr hinsawdd, i gydnabod mai’r argyfwng hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Esboniodd Claire Sain-Ley Berry o Cynnal Cymru sut i ddefnyddio’r gweithdy ar-lein Amgylchedd Iach am ddim sy’n seiliedig ar bedair thema – datgarboneiddio, bioamrywiaeth, dim gwastraff a newid yn yr hinsawdd. Mae’r gweithdy’n annog unigolion a thimau i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau eu heffeithiau negyddol a chynyddu eu heffeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, a chyfrannu at unrhyw systemau rheoli amgylcheddol presennol yn eu sefydliad.

Amlygodd y weminar hefyd gyfleoedd hyfforddi am ddim sydd ar gael ar newid yn yr hinsawdd i’ch helpu i ddeall beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’ch rôl, a sut i weithredu.

Cadeirydd – Tracy Evans, Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy, Canolbwynt Iechyd a Chynaliadwyedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Siaradwyr:
Eurgain Powell, Rheolwr Rhaglen Datblygu Cynaliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Clare Sain-Ley Berry, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cynnal Cymru

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Mynd i'r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Mynd i'r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd (2 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad