Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus sy’n cynllunio neu’n dechrau eu hasesiadau risg hinsawdd lleol. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad i’r canllawiau ar asesiadau risg hinsawdd lleol sy’n cael eu cynhyrchu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer BGCau. Clywodd y mynychwyr fewnwelediadau allweddol o’r Asesiad diweddar o’r Effaith ar Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar berygl newid yn yr hinsawdd i bobl a chymunedau yng Nghymru. Roedd cyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd a mewnwelediadau o waith addasu hinsawdd lleol presennol yng Nghymru.
Bydd newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar iechyd, lles ac anghydraddoldebau yng Nghymru ac mae cynllunio ac addasu i newid yn yr hinsawdd yn fater i bawb. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gynllunio ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r sgwrs.
Deilliannau dysgu:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o sut y bydd yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar iechyd a lles pobl a chymunedau yng Nghymru
- Rhoi cyflwyniad i’r broses a’r canllawiau asesu risg hinsawdd lleol
- Cynyddu ymwybyddiaeth o rai ystyriaethau allweddol wrth gynllunio addasu i’r hinsawdd yn lleol.
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd
, 10MB
Llawrlwytho - Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd (10 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad