Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Deall a mynd i’r afael â’r effaith a gaiff defnyddio e-sigaréts gan blant a phobl ifanc yng Nghymru i iechyd cyhoeddus

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Deall a mynd i’r afael â’r effaith a gaiff defnyddio e-sigaréts gan blant a phobl ifanc yng Nghymru i iechyd cyhoeddus

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae fepio wedi cynyddu ymhlith poblogaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gydag 8% o’r boblogaeth oedolion yn dweud eu bod yn eu defnyddio nhw ar hyn o bryd a bod 5% o bobl ifanc 11-16 oed yn defnyddio feps yn wythnosol, o leiaf. Mae feps yn llai niweidiol o lawer na sigaréts ac yn ddull mwyfwy poblogaidd o roi’r gorau i ysmygu. Fodd bynnag, wrth i niferoedd cynyddol o bobl sydd erioed wedi ysmygu ddechrau defnyddio feps, beth yw risgiau, niwed a phroblemau defnyddio feps ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru? A beth all – a beth ddylai – iechyd cyhoeddus a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc fod yn ei wneud?

Y gweminar hwn:

  • Wedi rhoi diweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar epidemioleg a niwed fepio ymhlith plant ac oedolion, a’r mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r broblem, yn enwedig gyda phobl ifanc
  • Bu Ash Cymru yn trafod eu harolwg anwedd cenedlaethol a hefyd yn trafod y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud gydag ysgolion uwchradd i addysgu am anwedd trwy weithdai ac adnoddau amrywiol
  • Wedi darparu trosolwg o sut mae prosiectau mewn gwahanol rannau o Gymru yn mynd i’r afael â’r broblem yn sgil ceisiadau gan leoliadau addysg, a sut maen nhw’n cynorthwyo pobl ifanc i ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus.

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Chris Emmerson and Suzanne Cass

, 2MB

Llawrlwytho - Chris Emmerson and Suzanne Cass (2 MB)

Llawrlwytho

Rebecca Lewis, Bethan Jones a Cath Einon

, 5MB

Llawrlwytho - Rebecca Lewis, Bethan Jones a Cath Einon (5 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad