Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, cynhaliodd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru cefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â diddordeb yn y maes, ynghyd.

Cynulleidfa:

Bydd y digwyddiad yn berthnasol i gynllunwyr polisi a rheoli datblygu; gweithwyr iechyd proffesiynol o fyrddau iechyd lleol gan gynnwys timau iechyd y cyhoedd, timau cynllunio strategaeth a thimau ystadau/cyfleusterau cyfalaf; ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr agenda hon gan gynnwys cynllunwyr trafnidiaeth, swyddogion iechyd yr amgylchedd, gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig.

Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar newidiadau yn yr agenda polisi cynllunio, cyfranogiad gwasanaethau iechyd y cyhoedd a gofal iechyd wrth ddylanwadu ar y defnydd o arian Adran 106, polisïau sy’n hwyluso amgylcheddau bwyd iach a diweddariad o Reoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) Llywodraeth Cymru. Cyflwynir prosiectau ac astudiaethau achos perthnasol.

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a'r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau

, 11MB

Llawrlwytho - Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a'r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau (11 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad