Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Dull mapio systemau cyfranogol ar gyfer archwilio cyflawniad addysgol yng Nghymru – myfyrdod ar theori ac ymarfer

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Dull mapio systemau cyfranogol ar gyfer archwilio cyflawniad addysgol yng Nghymru – myfyrdod ar theori ac ymarfer

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Rhoddodd y weminar hon drosolwg o benderfynyddion ehangach gwaith yr Uned Iechyd mewn perthynas ag addysg fel penderfynydd iechyd ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio dull mapio systemau cyfranogol i ddeall y llwybrau cymhleth sy’n dylanwadu ar ganlyniadau cyflawniad addysgol yng Nghymru. Disgrifiodd y weminar y dull gweithredu, rhoddodd drosolwg o’r map a sut rydym wedi ei ddefnyddio a thrafod y dysgu o ddefnyddio’r dull hwn fel offeryn ar gyfer gweithio gydag eraill i ddeall a rheoli materion iechyd cyhoeddus cymhleth.

Gallai hyn fod o ddiddordeb i bobl sy’n gweithio gydag addysg neu’n ystyried datblygu map systemau yn y dyfodol.

Deilliannau Dysgu:

  • Deall pryd i ddefnyddio mapio systemau cyfranogol a beth sydd angen ei ystyried wrth ddefnyddio’r dull hwn
  • Disgrifio’r llwybrau cymhleth sy’n dylanwadu ar gyflawniad addysgol a sut y gellir defnyddio’r map systemau i lywio gweithredu


Cyflwynwyr:

Christian Heathcote-Elliott – Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cathrine Winding – Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Dull mapio systemau cyfranogol ar gyfer archwilio cyflawniad addysgol yng Nghymru - myfyrdod ar theori ac ymarfer

PowerPoint, 3MB

Llawrlwytho PowerPoint - Dull mapio systemau cyfranogol ar gyfer archwilio cyflawniad addysgol yng Nghymru - myfyrdod ar theori ac ymarfer (3 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad