Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Beth sy’n Gwneud i Gydweithio Weithio? Mewnwelediadau ac Offer ar gyfer Partneriaethau Effeithiol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Beth sy’n Gwneud i Gydweithio Weithio? Mewnwelediadau ac Offer ar gyfer Partneriaethau Effeithiol

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad ar gyfer Grŵp Cydlynu Adeiladu Cymru Iachach, o’r enw Cysylltiadau Gwell, Canlyniadau Gwell ar gyfer Tlodi Plant. Rhannodd y weminar hon y canfyddiadau allweddol a’r argymhellion o’r adroddiad, a chyflwynodd offeryn hunanasesu ymarferol y gall unrhyw un ei ddefnyddio i gryfhau cydweithio ar unrhyw bwnc.

Mae lleihau tlodi plant – a’i effaith ar iechyd a llesiant – yn gofyn am weithio cydgysylltiedig yn yr hirdymor ar draws sawl sector yng Nghymru.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gall cydweithio effeithiol fod yn heriol yn ymarferol. Nod y gwaith hwn oedd deall beth sy’n helpu cydweithio i ddigwydd, a pha gefnogaeth sydd ei hangen ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn 2025, fe wnaethom adolygu tystiolaeth bresennol i nodi’r nodweddion sefydliadol a system sy’n cefnogi gweithio’n dda mewn partneriaeth. Yna fe wnaethom archwilio a yw’r nodweddion hyn yn bresennol mewn partneriaethau tlodi plant presennol ledled Cymru, trwy arolwg a chyfweliadau â phartneriaid o amrywiaeth o sectorau.

Rhannodd y weminar hwn enghreifftiau o arfer cydweithredol cryf sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, yn ogystal â’r camau gweithredu – yn enwedig ar lefel genedlaethol – a allai helpu i gryfhau a chynnal gweithio mewn partneriaeth leol a rhanbarthol yn y dyfodol.

Canlyniadau Dysgu:

  • Deall nodweddion allweddol cydweithio rhwng sectorau effeithiol
  • Nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn eich partneriaethau cydweithredol eich hun gan ddefnyddio’r offeryn hunanasesu
  • Rhoi camau gweithredu ac argymhellion ymarferol ar waith i gryfhau cydweithrediadau

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Beth sy'n gwneud i gydweithio? Mewnwelediadau ac offer ar gyfer partneriaethau effeithiol

PDF, 799KB

Llawrlwytho PDF - Beth sy'n gwneud i gydweithio? Mewnwelediadau ac offer ar gyfer partneriaethau effeithiol (799 KB)

Llawrlwytho