Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Gweithgarwch Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau yng Nghymru Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026

Manylion:

Awduron: Awdur: Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau, Tîm Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd ar: 27ain Gorffennaf 2026

Mae’r adroddiad hwn ar gyfer 2025-26 yn dangos tystiolaeth o’r gostyngiad parhaus a sylweddol yng ngweithgarwch pobl sy’n defnyddio cyffuriau (PWID) sy’n cael mynediad at raglenni nodwyddau a chwistrelliau (NSP) ledled Cymru ers 2020. Dyma’r cyhoeddiad NSP cyntaf ers 20221 gan ei bod yn angenrheidiol cynnal gwerthusiad o’r gwasanaethau hyn er mwyn deall y newidiadau hyn. Mae gwaith yn parhau i gwblhau canfyddiadau’r
gwerthusiadau hyn.

Oherwydd anawsterau cysylltu ag PWID nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau, dylid dehongli tueddiadau yn ofalus gan fod ystod o ffactorau’n debygol o ddylanwadu arnynt. Felly, ni ellir diystyru ar hyn o bryd nad yw’r gostyngiad yng ngweithgarwch y Gwasanaeth Nodwyddau a Chwistrellau (NSP) yn gysylltiedig â mwy o ddefnydd o ffynonellau amgen o offer chwistrellu (h.y. prynu ar-lein), gostyngiad yn nifer y bobl sy’n chwistrellu cyffuriau (PWID) sy’n defnyddio gwasanaethau nodwyddau a chwistrellau sy’n arwain at fwy o rannu ac ailddefnyddio, gostyngiad gwirioneddol mewn PWID, neu gyfuniad o’r ffactorau hyn ac o bosibl ffactorau eraill.

Gall newidiadau i’r Gronfa Ddata Lleihau Niwed (HRD) effeithio ar gyflawnrwydd cofnodi data a dylanwadu ar y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn. Mae rhagor o wybodaeth am han

Lawrlwythiadau adroddiadau

Gweithgarwch Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau yng Nghymru Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Gweithgarwch Rhaglen Nodwyddau a Chwistrellau yng Nghymru Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig