Adeiladu Iechyd i mewn i Wneud Penderfyniadau: Asesiad Effaith Iechyd (HIA) a Rheoliadau HIA Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru am weminar addysgiadol ac ymarferol sy’n cyflwyno Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025, cyn iddynt gael eu rhoi ar waith ym mis Ebrill 2027.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad clir a hygyrch i’r hyn y mae’r rheoliadau’n ei olygu i gyrff cyhoeddus. Byddwch yn dysgu sut y gall Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (AEIau) gefnogi gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus, a hynny drwy ystyried effeithiau tymor byr a hirdymor polisïau ar iechyd corfforol a meddyliol.
Byddwn yn archwilio pam mae AEIau yn offeryn gwerthfawr ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a deall penderfynyddion ehangach iechyd, gan gynnwys tai, cyflogaeth ac addysg. Bydd y weminar hefyd yn egluro pryd mae angen AEIau, a sut y gellir eu cymhwyso mewn ffordd hyblyg a chymesur ar draws gwahanol leoliadau.
Byddwch yn cael dealltwriaeth ddyfnach o fanteision AEIau – o nodi risgiau’n gynnar i gryfhau cydweithio a gwella canlyniadau.
Bydd y rhai sy’n bresennol hefyd yn clywed am y cymorth sydd ar gael gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), a sut y gall sefydliadau ddechrau paratoi ar gyfer rhoi AEIau ar waith.