Sut mae system gynllunio Cymru’n cael effaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth?
“Dim ond rhan fach o’r hyn sy’n galluogi pobl i aros yn iach drwy gydol eu hoes yw mynediad at ofal iechyd. Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol (adeiladau, cartrefi, lleoedd, strydoedd, llwybrau, tir, cyrsiau dŵr, cynefinoedd naturiol) a’r gweithgareddau a wneir ynddynt (byw, gweithio, dysgu, chwarae, siopa, teithio, symud) yn pennu iechyd a llesiant y boblogaeth.
Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2025 (safle allanol)
Cyflwyniad
Mae’r ffordd yr ydym yn cynllunio tai, trafnidiaeth, gwasanaethau, mannau gwyrdd ac amgylcheddau bwyd yn siapio ein harferion bob dydd, gan ddylanwadu ar weithgarwch corfforol, gordewdra, iechyd meddwl a chyflyrau ehangach fel salwch anadlol. Felly, dylai system gynllunio Cymru ystyried sut y gall penderfyniadau gael effaith gadarnhaol (neu negyddol) ar ein hiechyd a’n llesiant.
Mae’r nodyn esboniadol hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhoi trosolwg o sut mae cynllunio’n effeithio ar iechyd. Mae’n dwyn ynghyd y dystiolaeth ar yr effaith sydd gan yr amgylchedd adeiledig a naturiol, o weithgarwch corfforol a gordewdra i wydnwch hinsawdd, amgylcheddau bwyd ac anghydraddoldebau. Mae’n nodi argymhellion clir ac ymarferol ar gyfer sut y gellir cryfhau polisi ac arfer cynllunio yng Nghymru i greu lleoedd iachach, mwy cynaliadwy a mwy addas yn y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Tabl cynnwys:
- Beth yw’r cysylltiad rhwng cynllunio ac iechyd a llesiant?
- Pam mae cynllunio ein hamgylchedd yn dda’n bwysig, a sut mae'n effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant?
- Beth ellir ei wneud o fewn y system gynllunio bresennol i wella iechyd y boblogaeth?
- Sut allai'r system gynllunio wneud mwy i 'ymwreiddio iechyd da drwy ddyluniad’?
- Sut i wneud ein cymunedau’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?
- Sut all y llywodraeth a’r rhai sy’n llunio polisi gefnogi cynllunio trefol iach?
- Crynodeb
- Adroddiadau perthnasol
- Setiau data cysylltiedig
Beth yw’r cysylltiad rhwng cynllunio ac iechyd a llesiant?
Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn benderfynyddion allweddol (safle allanol, Saesneg yn unig) iechyd a llesiant. Mae cynllunio trefol iach (safle allanol, Saesneg yn unig) yn ymwneud â chynllunio ar gyfer pobl, ystyried goblygiadau penderfyniadau cynllunio ar iechyd a llesiant, a rhoi anghenion y boblogaeth leol wrth wraidd penderfyniadau.
Bydd y ffordd yr ydym yn cynllunio datblygiadau newydd, sut mae tai a llwybrau teithio’n cael eu dylunio a’u cyflunio a pha mor hygyrch yw gwasanaethau lleol, i gyd yn dylanwadu ar ein bywydau, ein patrymau gwaith a theithio, ein mynediad at fwyd iach a’r cyfleoedd sydd gennym i fod yn egnïol yn ein bywydau bob dydd. Mae’r ffactorau hyn yn eu tro yn cysylltu â’n canlyniadau iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol.
Deilliodd cynllunio trefi modern yn y DU o’r angen am ddelio â phryderon iechyd y cyhoedd, gan gynnwys llygredd, glanweithdra a gorlenwi. Mae ansawdd yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn hanfodol i’n hiechyd a’n llesiant, ac eto mae’r system gynllunio yn y DU yn aml yn cael ei beirniadu am beidio â manteisio i’r eithaf ar y cyfle i greu lleoedd iach trwy ddylunio da yn hytrach nag adeiladu cynifer o dai â phosibl.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tai a datblygiadau eraill yn aml wedi cael eu cynllunio o amgylch defnyddio ceir yn hytrach na phobl, gyda chyfleusterau cymdeithasol a chymunedol cyfyngedig a diffyg amwynderau sylfaenol gan gynnwys mannau gwyrdd a chyfleoedd i blant chwarae. Mae’r ffordd y mae’r amgylchedd wedi’i gynllunio a’i adeiladu drwy gydol yr 20fed a’r 21ain ganrif wedi cyfrannu at gynnydd mewn clefydau anhrosglwyddadwy (safle allanol, Saesneg yn unig) fel cyflyrau anadlol, dementia a rhai mathau o ganser.
Pam mae cynllunio ein hamgylchedd yn dda’n bwysig, a sut mae’n effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant?
Yn 2024/2025, 27.3% oedd cyffredinrwydd (safle allanol) y plant 4 i 5 oed oedd dros bwysau neu’n ordew yng Nghymru. Mae nifer yr achosion o blant sydd dros bwysau neu’n ordew yn amrywio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, gyda’r uchaf yn Ynys Môn (31.5%) a’r isaf ym Mro Morgannwg (22.4%). Yn 2024/2025, roedd 62% o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew (data (safle allanol) a hunan-adroddwyd) ac roedd gan 36% bwysau iach.
Mae gordewdra’n gysylltiedig â nifer o gyflyrau iechyd fel clefyd y galon, clefyd yr afu, diabetes, strôc a chlefyd afu brasterog, ac mae’n costio tua £73 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae anweithgarwch corfforol yn gyfrifol am un o bob chwe marwolaeth yn y DU ac amcangyfrifir ei fod yn costio £7.4 biliwn i’r DU yn flynyddol.
Mae lle rydym yn byw yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd a’n llesiant:
- Mae ein hamgylchedd yn llywio gweithgarwch corfforol a gordewdra: Mae amgylchedd adeiledig a ddylunnir yn dda yn lleihau anweithgarwch corfforol. Nodweddir amgylcheddau obesogenig gan lai o fynediad at fannau diogel a hygyrch ar gyfer gweithgarwch corfforol ac argaeledd cynyddol i opsiynau bwyd sy’n ddwys o ran calorïau.
- Mae amgylcheddau bwyd yn dylanwadu ar ddeiet ac anghydraddoldebau: Mae amgylcheddau bwyd afiach wedi dod yn gyffredin, lle mae siopau bwyd cyflym, yn gwerthu opsiynau braster, halen a siwgr uchel, yn dominyddu, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, a lle mae cyfleoedd cyfyngedig i dyfu bwyd, gan wneud dewisiadau iach yn anoddach.
- Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn effeithio’n ehangach ar iechyd: Mae cysylltiadau â chyflyrau anadlol (e.e. o dai gwael, llygredd aer a pheryglon amgylcheddol), iechyd meddwl (e.e. o amodau byw gwael, sŵn a straen) a marwolaethau gormodol yn ystod y gaeaf o gartrefi oer.
- Mae newid hinsawdd a lleoliadau datblygu’n cynyddu’r risg o lifogydd ac anghydraddoldebau: Mae adeiladu mewn ardaloedd gwledig ac ar orlifdiroedd, a cholli cefn gwlad a mannau gwyrdd, yn cynyddu ar iechyd corfforol a meddyliol pobl o ran llifogydd a’r hinsawdd. Mae hyn yn effeithio ar rai grwpiau poblogaeth yn fwy nag eraill, gan greu anghydraddoldeb o ran effaith (safle allanol).
Beth ellir ei wneud o fewn y system gynllunio bresennol i wella iechyd y boblogaeth?
Mae gan y system gynllunio yng Nghymru ystod o bwerau a all effeithio ar newid ar lefel leol.
Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae PCC yn annog awdurdodau lleol i ystyried sut y gallant ddefnyddio’r system i wella iechyd a llesiant, cyfrannu’n gadarnhaol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a chofleidio creu lleoedd.
Bydd Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 yn dod i rym ym mis Ebrill 2027, gan ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal AEI pan fyddant yn bwriadu gwneud penderfyniad o natur strategol.
Mae polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol yn darparu’r fframwaith i awdurdodau lleol baratoi cynlluniau datblygu lleol (CDLl) yng Nghymru, sydd wedyn yn llywio penderfyniadau cynllunio. Mae canllawiau cynllunio atodol (CCA) yn cefnogi CDLl gyda manylion ynghylch polisi. Mae gan lawer o awdurdodau lleol yng Nghymru bolisïau CDLl a CCA sydd â’r nod uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o wella iechyd a llesiant.
Sut allai’r system gynllunio wneud mwy i ‘ymwreiddio iechyd da drwy ddyluniad’?
Mae gan amgylchedd iach nifer o effeithiau cadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol. Dylai creu amgylcheddau iach drwy gynllunio ymwneud â dull cynhwysfawr sy’n integreiddio dylunio trefol, iechyd y cyhoedd ac ymgysylltu cymunedol.
Gall polisi cynllunio cenedlaethol fod yn glir ynghylch sut y dylid ystyried materion iechyd y cyhoedd yn y broses gynllunio leol. Mae cynlluniau lleol yn rhoi canllaw i ddatblygwyr, felly rhaid iddynt fod yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn glir ynghylch yr ystyriaethau cynllunio y mae’n rhaid eu hystyried wrth ddylunio datblygiad newydd.
Gall cynlluniau lleol gynnwys cyfarwyddyd clir i ddatblygwyr ynghylch yr angen am ystyried iechyd a chynnwys gofynion penodol o ran darparu amgylchedd sy’n cefnogi iechyd, fel cymdogaethau y gellir cerdded ynddynt, mannau gwyrdd, seilwaith cymunedol, cartrefi o safon, a chyfleoedd teithio llesol. Gallant hefyd gynnwys gofynion i liniaru effeithiau datblygu a allai fod yn niweidiol.
Mae galluogi mwy o gyfleoedd am weithgarwch corfforol yn hanfodol i wella iechyd a llesiant. Mae gwneud mwy o deithiau trwy ddulliau teithio llesol yn creu manteision iechyd sylweddol, yn ogystal â manteision economaidd ac amgylcheddol, a dyma’r ffordd hawsaf i’r rhan fwyaf o bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn eu bywydau bob dydd.
Er mwyn cefnogi iechyd a llesiant plant, rhaid i ni greu amgylcheddau sy’n ffafriol i iechyd, a galluogi plant i fod yn egnïol, eu hamddiffyn rhag niwed a’u galluogi i chwarae mewn lleoliadau diogel a hygyrch. Dylid adolygu polisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol i sicrhau yr adeiledir amgylcheddau sy’n llesol i blant, gan gynnwys mannau chwarae anffurfiol sy’n llawn natur yn agos at gartrefi a strydoedd diogel, gyda chysylltiadau da rhyngddynt.
Mae angen i ganllawiau cynllunio fod yn glir ynghylch yr angen i gynlluniau lleol fabwysiadu dull gydol oes ac ystyried anghenion y boblogaeth leol; gan ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol, gwahanol grwpiau oedran, pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a grwpiau economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys anghenion ein poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym.
Sut i wneud ein cymunedau’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?
Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i sicrhau y bydd penderfyniadau a wneir heddiw o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys creu amgylcheddau iach ar gyfer plant a phobl ifanc, a fydd yn ei dro o fudd i’r boblogaeth ehangach.
Gall gwleidyddion a’r rhai sy’n llunio polisi yng Nghymru gyfrannu at y nod hwn drwy alluogi’r system gynllunio i ganolbwyntio’n gliriach ac yn gryfach ar iechyd a llesiant drwy brosesau cynllunio polisi cadarn, a pheidio â blaenoriaethu cyfeintiau adeiladu tai dros ddyluniad da.
Sut all y llywodraeth a’r rhai sy’n llunio polisi gefnogi cynllunio trefol iach?
Amlinellodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddeg ffordd allweddol y gall Polisi Cynllunio Cymru (PCC) gryfhau ei ffocws ar iechyd a llesiant:
- Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (AEI): Annog Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer pob prosiect datblygu mawr i werthuso eu heffeithiau posibl ar iechyd a sicrhau bod ystyriaethau iechyd yn cael eu hintegreiddio i benderfyniadau cynllunio. O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd angen i gyrff cyhoeddus wneud AEIau o dan Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 wrth wneud penderfyniadau o natur strategol.
- Galluogi ffyrdd o fyw egnïol bob dydd: Blaenoriaethu datblygu seilwaith sy’n galluogi i gerdded a beicio fod yn ymarferol ac yn ddiogel, a chludiant cyhoeddus yn ddewis hawdd, gan leihau dibyniaeth ar geir. Rhaid gwneud mynediad at fannau gwyrdd a chyfleoedd chwarae yn haws ac yn fwy cyfartal i amrywiaeth o grwpiau poblogaeth, gan ddileu rhwystrau i gyfleoedd gweithgarwch corfforol bob dydd.
- Dylunio cynhwysol: Gweithredu polisi sy’n sicrhau bod dylunio cynhwysol yn cael ei ymgorffori mewn datblygiadau newydd, gan sicrhau y gall pawb elwa o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae hyn yn cynnwys teithio llesol hygyrch a diogel, cludiant cyhoeddus, amgylcheddau sy’n ystyriol o bobl sydd â dementia a nam ar y synhwyrau, croesfannau cerddwyr diogel, llety a mannau cyhoeddus sy’n ystyriol o oedran (e.e. cynnwys mannau gorffwys a thoiledau cyhoeddus). Ymgynghori â byrddau iechyd lleol a thimau iechyd y cyhoedd yn ystod cyfnod cyn-ymgeisio datblygiadau fel y gellir ystyried anghenion o ran gwasanaethau gofal iechyd ac anghenion iechyd y boblogaeth yn y broses ddylunio.
- Lleoliadau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd: Gweithredu polisi i sicrhau bod datblygu newydd yn blaenoriaethu datblygiadau ar safleoedd tir llwyd a lleoliadau ger cymdogaethau presennol a rhwydweithiau cludiant cyhoeddus, gan ganiatáu i gymdogaethau y gellir cerdded ynddynt gael eu creu a’u gwella. Blaenoriaethu egwyddorion creu lleoedd ar gyfer pob datblygiad newydd a chyfyngu ar ddatblygu mewn ardaloedd sy’n agored i oblygiadau newid hinsawdd, fel risgiau llifogydd.
- Mannau naturiol a hamdden: Cynyddu’r ddarpariaeth o barciau, gerddi cymunedol, cyfleusterau chwarae a hamdden, a galluogi mynediad at fyd natur, yn enwedig mewn ardaloedd lle gwyddys bod anghydraddoldebau o ran mynediad. Sicrhau bod mannau gwyrdd yn cael eu dylunio trwy ddull gydol oes, er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth.
- Amgylcheddau sy’n llesol i blant: Rhoi argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae (safle allanol) ar waith mewn perthynas â chwarae:
- Sicrhau bod yr hawl i chwarae wedi’i hymgorffori’n ddigonol mewn offerynnau polisi strategol a phenderfyniadau;
- Sicrhau bod egwyddor chwarae fel mater o gyfiawnder gofodol yn cael ei chydnabod a’i deall ar draws Polisi Cynllunio Cymru;
- Sicrhau bod barn a phrofiadau plant yn llywio’r ffyrdd y mae cymdogaethau’n cael eu cynllunio a’u rheoli.
Mae hyn yn gweddu i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Amgylcheddau sy’n ystyriol o oedran: Mae angen i ni gynllunio cymdogaethau sy’n galluogi ein poblogaeth sy’n heneiddio i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyhyd ag sy’n bosibl. Mae hyn yn golygu lleoedd a mannau sy’n galluogi pobl hŷn i ymwneud â gweithgarwch corfforol, cyrchu gwasanaethau a chwrdd â phobl eraill:
- Sicrhau bod tai’n cael eu darparu i ddiwallu anghenion pobl hŷn, o ran llety penodol i bobl hŷn, ond wrth greu ‘cartrefi gydol oes’, a’u bod yn amddiffyn eu hiechyd drwy allu gwrthsefyll eithafion tymheredd oherwydd newid hinsawdd
- Sicrhau bod tai ar gyfer pobl hŷn wedi’u lleoli mewn mannau lle gallant gerdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd gwasanaethau a gweithgareddau
- Dylunio mannau gwyrdd ac ardaloedd cymunedol i ddiwallu anghenion pobl hŷn, er enghraifft drwy ddarparu meinciau a thoiledau
- Darparu cyfleusterau cymunedol i roi’r cyfle i gwrdd ag eraill, gan leihau’r risg o unigrwydd
- Sicrhau bod mannau sy’n ystyriol o ddementia wedi’u cynnwys mewn datblygiadau newydd
8. Dylai awdurdodau cynllunio lleol wrthod ceisiadau ar gyfer siopau cludfwyd poeth a bwyd cyflym:
a) o fewn pellter cerdded i ysgolion a mannau eraill lle mae plant a phobl ifanc yn ymgynnull, oni bai bod y lleoliad o fewn canol tref dynodedig; neu
b) mewn lleoliadau lle ceir tystiolaeth bod crynhoad o ddefnyddiau o’r fath yn cael effaith andwyol ar iechyd lleol, llygredd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol
Amgylcheddau bwyd iach: Gweithredu polisïau i annog sefydlu siopau bwyd iach a chyfleoedd tyfu bwyd. Gweithredu canllawiau polisi clir mewn polisi cynllunio cenedlaethol i gyfyngu ar ddwysedd siopau cludfwyd poeth a bwyd cyflym. Er enghraifft, fel yn Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol Lloegr (safle allanol, Saesneg yn unig):
- Cynnwys cymunedau: Sicrhau ymgysylltu pwrpasol â chymunedau yn y broses gynllunio i sicrhau bod datblygiadau’n diwallu eu hanghenion a’u dymuniadau o ran iechyd. Gellir cyflawni hyn drwy gryfhau’r gofyniad am ymgynghoriadau cyhoeddus a gweithgareddau cynllunio cydweithredol fel gweithdai neu baneli adolygu dyluniadau. Byddai ymgysylltu â’r gymuned yng ngham cyn-ymgeisio ceisiadau cynllunio’n arwain at ddyluniadau mwy cydweithredol a diwallu anghenion y boblogaeth.
Crynodeb
Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn benderfynyddion allweddol iechyd a llesiant a gallant gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant unigolyn. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chyflwyno Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 mae gennym gyfle yng Nghymru i alluogi’r system gynllunio i ganolbwyntio’n gliriach ar greu amgylcheddau iechyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu canllaw (safle allanol) ar gyfer awdurdodau lleol sy’n crynhoi’r dystiolaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng cynllunio ac iechyd.
Datblygwyd y nodyn esboniadol hwn ar y cyd â Liz Green, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd/cyfarwyddwr rhaglen Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd a Cheryl Williams, prif ymarferydd iechyd y cyhoedd, Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.