Neidio i'r cynnwys

O fwyd cyflym i risg llifogydd: sut mae penderfyniadau cynllunio’n effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant

Cyhoeddwyd ar: 08 Gor 2026

Nodyn esboniadol newydd yn rhybuddio bod penderfyniadau cynllunio’n siapio iechyd Cymru, a bod angen gweithredu ar frys.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru wedi cyhoeddi nodyn esboniadol newydd heddiw sy’n dangos sut mae penderfyniadau ynghylch tai, trafnidiaeth, mannau gwyrdd ac amgylcheddau bwyd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar iechyd y wlad – a pham mae angen dull llywodraeth gyfan ar frys i Gymru i greu lleoedd a chymunedau iachach. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod amgylcheddau sydd wedi’u cynllunio’n wael yn cyfrannu at ordewdra, anweithgarwch corfforol ac anghydraddoldebau iechyd cynyddol. Yn 2024/25, roedd 27.3% o blant 4 i 5 oed dros bwysau neu’n ordew, a hunan-adroddodd 62% o oedolion eu bod dros bwysau neu’n ordew. Ar yr un pryd, mae siopau bwyd cyflym 24 awr y dydd yn parhau i gael eu cymeradwyo. Mae byrddau iechyd o dan bwysau cynyddol i ehangu gwasanaethau rheoli pwysau, ond dim ond cyfran fach o’r galw y gellir ei diwallu gyda’r capasiti presennol. 

Mae deddfau cynllunio presennol yn rhoi pwerau cyfyngedig i fyrddau iechyd wrthwynebu datblygiadau a allai niweidio iechyd y boblogaeth. Er bod timau iechyd lleol yn cyfrannu at Gynlluniau Datblygu Lleol, mae cynnydd yn araf ac mae cyfleoedd i siapio amgylcheddau iachach yn cael eu colli. 

Mae’r nodyn esboniadol yn dangos y gall cynllunio fod yn arf pwerus ar gyfer gwella iechyd a llesiant – gan alluogi teithio llesol, mynediad at fannau gwyrdd, tai o safon, cyflogaeth a bwyd iach. Ond gall hefyd waethygu iechyd gwael pan fydd amgylcheddau bwyd afiach yn tyfu, pan gaiff datblygiadau eu hadeiladu o amgylch y defnydd o geir neu pan fydd tai a manwerthu wedi’u lleoli ymhell o wasanaethau. Mae tystiolaeth yn dangos y gall fod pum gwaith cymaint o siopau cludfwyd poeth mewn ardaloedd difreintiedig ag mewn cymunedau mwy cefnog. 

Daw’r cyhoeddiad cyn Rheoliadau’r Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd newydd a fydd, o fis Ebrill 2027 ymlaen, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus asesu goblygiadau penderfyniadau mawr ar iechyd. Ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a ffocws newydd Llywodraeth Cymru ar atal – gan gynnwys Dirprwy Weinidog newydd dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – mae’r adroddiad yn cynnig bod gan Gymru gyfle mawr bellach i ailddylunio lleoedd mewn ffyrdd sy’n cefnogi bywydau iachach. 

Meddai Liz Green, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd, polisi ac iechyd rhyngwladol a Cheryl Williams, prif ymarferydd iechyd y cyhoedd, Uned Gymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (UGAEIC), y ddwy yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Cynllunio yw un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym i wella iechyd y boblogaeth. Gall dylunio da gefnogi gweithgarwch corfforol, llesiant meddyliol, gwydnwch i’r hinsawdd a mynediad at fwyd iach – ond gall dylunio gwael wneud y gwrthwyneb. Mae’r nodyn esboniadol hwn yn disgrifio’r dystiolaeth a’r camau ymarferol y gall Cymru eu cymryd nawr. 

“Mae’n bwysig, serch hynny, i ni dynnu sylw at enghreifftiau o gynnydd cadarnhaol, gan gynnwys awdurdodau lleol sy’n cryfhau eu Cynlluniau Datblygu Lleol i fynd i’r afael â dwysedd siopau cludfwyd poeth mewn ardaloedd difreintiedig, a dulliau dylunio arloesol fel toeon a waliau gwyrdd yn Abertawe.” 

Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru y dylai’r nodyn esboniadol annog “sgyrsiau aeddfed” ynghylch sut mae penderfyniadau cynllunio’n cyfrannu at afiechyd ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG. 

Dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: “Os ydym am gyflawni uchelgais y llywodraeth newydd i achub y blaen ar y broblem ac atal salwch, rhaid i ni edrych y tu hwnt i’r gwasanaeth iechyd a gweithio gyda phob partner, gan gynnwys llywodraeth leol. Mae penderfynyddion ehangach iechyd, gan gynnwys yr amgylcheddau y mae pobl yn byw ynddynt, yn eu gwneud nhw’n sâl a gallai’r system gynllunio chwarae rhan hollbwysig wrth droi hynny o gwmpas.”