Trafnidiaeth
Trafnidiaeth yw un o flociau adeiladu hanfodol iechyd. Mae’n llunio’r ffordd mae pobl yn symud o gwmpas eu cymunedau; trwy gerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car, ac mae’n cynnwys y strydoedd, y palmentydd, rhwydweithiau bysiau a rheilffyrdd, a llwybrau eraill sy’n ein cysylltu. Pan fydd systemau trafnidiaeth yn ddiogel, yn fforddiadwy, yn ddibynadwy ac wedi’u cysylltu’n dda, maent yn helpu pobl i gyrraedd yr ysgol, gwaith, gofal iechyd, siopau a gweithgareddau cymdeithasol. Mae hyn yn cefnogi annibyniaeth, llesiant a chymunedau cryfach. Pan fydd trafnidiaeth yn wael neu’n anhygyrch, mae’n dod yn rhwystr – gan gyfyngu ar gyfleoedd, cynyddu straen i deuluoedd, a gwaethygu anghydraddoldebau.
Tabl cynnwys:
- Pam mae’n bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
- Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau trafnidiaeth iach a chynhwysol i'r boblogaeth yng Nghymru?
- Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau trafnidiaeth iach a chynhwysol er mwyn creu Cymru iachach, tecach a mwy cynaliadwy?
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Pam mae’n bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
Mae trafnidiaeth yn ffactor allweddol sy’n llunio bywydau pobl. Gall mynediad gwael at drafnidiaeth rwystro cyfleoedd, yn enwedig i blant a theuluoedd sy’n wynebu tlodi.
Mae trafnidiaeth yn dylanwadu ar iechyd yn y ffyrdd canlynol:
- Mynediad at wasanaethau hanfodol: Pan fydd trafnidiaeth yn gyfyngedig neu’n ddrud, gall teuluoedd ei chael hi’n anodd cyrraedd addysg, gofal plant, apwyntiadau iechyd neu gyflogaeth. Gall hyn ddyfnhau tlodi plant, lleihau cyfleoedd a chynyddu pwysau dyddiol.
- Gweithgarwch corfforol a chwarae: Mae strydoedd, palmentydd a chroesfannau diogel yn ei gwneud hi’n haws i blant ac eraill gerdded, beicio a chwarae. Mae hyn yn cefnogi datblygiad iach ac yn meithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach.
- Llesiant meddwl a chysylltiad: Pan fydd cymunedau wedi’u cysylltu gan gysylltiadau trafnidiaeth da, mae pobl yn llai ynysig. Fodd bynnag, gall teithiau hir neu llawn straen gynyddu blinder, gorbryder a lleihau’r amser a dreulir gyda’r teulu.
- Ansawdd aer a hinsawdd: Mae llygredd traffig yn cyfrannu at glefyd y galon a’r ysgyfaint. Mae creu systemau trafnidiaeth carbon‑isel, llesol a glân o fudd i bawb ac yn amddiffyn iechyd nawr ac yn y dyfodol.
- Diogelwch a mannau cymunedol: Mae strydoedd sydd wedi’u dylunio ar gyfer pobl, nid ceir yn unig, yn lleihau anafiadau ac yn gwneud cymdogaethau’n fwy diogel ar gyfer teithio llesol, chwarae a chysylltiadau cymdeithasol.
- Anghydraddoldebau trafnidiaeth: Mae gwella trafnidiaeth yn ffordd bwysig o leihau anghydraddoldebau iechyd a thlodi plant, yn enwedig y rhai sy’n effeithio ar gymunedau gwledig, teuluoedd ar incwm isel, pobl anabl, oedolion hŷn a phobl ifanc.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau trafnidiaeth iach a chynhwysol i’r boblogaeth yng Nghymru?
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i gryfhau trafnidiaeth iach a chynhwysol drwy wneud y canlynol:
- Darparu tystiolaeth ynghylch sut mae trafnidiaeth yn effeithio ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau, gan gynnwys cysylltiadau â thlodi plant.
- Cefnogi teithio llesol diogel a hygyrch fel bod cerdded a beicio yn ddewisiadau hawdd bob dydd.
- Ymgorffori iechyd mewn penderfyniadau trafnidiaeth a chynllunio, gan gynnwys drwy Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.
- Hyrwyddo systemau trafnidiaeth glanach a mwy diogel i leihau llygredd aer ac anafiadau ar y ffyrdd.
- Tynnu sylw at anghenion y bobl a’r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan drafnidiaeth wael, gan sicrhau bod tegwch yn ganolog i benderfyniadau.
Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau trafnidiaeth iach a chynhwysol er mwyn creu Cymru iachach, tecach a mwy cynaliadwy?
Dylid cymryd y camau gweithredu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol canlynol i gryfhau trafnidiaeth iach a chynhwysol, er mwyn sicrhau’r iechyd gorau posibl i’r boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru:
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn