Neidio i'r cynnwys

Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Degwch Iechyd Digidol

Yn 2025, dynodwyd y Gyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Degwch Iechyd Digidol. Mae Cymru yn arwain y ffordd drwy letya Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf yn Rhanbarth Ewrop sy’n canolbwyntio’n benodol ar degwch ar draws trawsnewidiad digidol iechyd.

Mae Canolfan Gydweithredol WHO ar Degwch Iechyd Digidol yn gweithio tuag at ddyfodol lle mae data a thrawsnewid iechyd digidol yn gwella canlyniadau iechyd teg – gan ddod â budd i Gymru a rhanbarth ehangach Ewrop.

Fel Canolfan Gydweithredol, rydym yn arwain y gwaith o gyflawni cynllun gwaith y cytunwyd arno gan y ddau sefydliad sy’n cwmpasu adolygiadau technegol, ymchwil a chasglu tystiolaeth – gyda rôl allweddol wrth gefnogi strategaethau a blaenoriaethau WHO ar iechyd digidol ar lefelau rhanbarthol a byd-eang.

Y cylch gorchwyl yw:

  1. Cefnogi gweithgareddau WHO tuag at gryfhau’r gallu ar gyfer tegwch iechyd digidol i gefnogi blaenoriaethau sefydliadol.
  2. Llywio gwaith WHO ar ddatblygu canllawiau technegol ar gyfer tegwch mewn iechyd digidol.
  3. Cefnogi ymdrechion i wella cydweithrediad technegol ymhlith rhanddeiliaid iechyd digidol rhanbarthol ar degwch iechyd digidol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a gwaith eiriolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gydweithio â ni

Penaethiaid Canolfan Gydweithredol WHO ar Degwch Iechyd Digidol

  • Alisha Davies (Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Data a Digidol).
  • Iain Bell (Cyfarwyddwr Ymchwil, Data a Digidol) a

Chysylltwch â ni drwy [email protected]

Ein ffocws: Tegwch ar draws trawsnewid iechyd digidol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cydweithio â Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop er 2002, pan gyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf a oedd yn amlygu nad oes gan bawb yn Ewrop fynediad cyfartal at offer iechyd digidol. Canfuwyd bod pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, y rhai sy’n profi iechyd gwaeth, rhai sy’n wynebu rhwystrau iaith, a rhai grwpiau poblogaeth gan gynnwys mudwyr ac oedolion hŷn, i gyd yn wynebu’r heriau mwyaf wrth ddefnyddio technolegau digidol. Tra bod technolegau iechyd digidol yn cael eu defnyddio’n fwy cyffredin gan bobl â lefelau addysg uwch, statws economaidd uwch ac sy’n byw mewn ardaloedd trefol.

Amlygodd ein hadolygiad  2026 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, er bod pwysigrwydd tegwch yn cael ei gydnabod fwyfwy ar draws rheoleiddio, gweithredu a gwerthuso iechyd digidol, mae ei integreiddio yn ymarferol yn parhau i fod yn anghyson.

Rydym wrthi’n datblygu dull o ymgorffori cydraddoldeb ar draws meysydd cymdeithasol a thechnegol digidol i gefnogi trawsnewid iechyd. 

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn canolbwyntio ar lunio iechyd digidol teg, gan gefnogi trawsnewid yng Nghymru ac ar draws rhanbarth Ewrop WHO.

Diweddariad allweddol a dolenni

2022 Equity within digital health technology within the WHO European Region: a scoping review – World Health Organization (WHO) (Saesneg yn unig)
2025 World Health Organization Collaborating Centre Digital Health Equity Launch (Saesneg yn unig)
2026 Equity across the regulation, implementation and evaluation of digital health: scoping review – World Health Organization (WHO) (Saesneg yn unig)
2026 Webinar – Advancing equity in digital health: from principles to practice (Saesneg yn unig)

Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=L35PK1rEJ1k (Saesneg yn unig)