Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl ordew ar restrau aros gofal iechyd? Adolygiad cyflym

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Toby Ayres, Jordan Everitt, Alesha Wale, Chukwudi Okolie, Amy Fox-McNally, Helen Morgan, Hannah Shaw, Jacob Davies, Rhiannon Tudor Edwards, Adrian Edwards, Alison Cooper, Ruth Lewis

Cyhoeddwyd ar: 1af Rhagfyr 2024

Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae nifer yr achosion o ordewdra wedi cynyddu’n gyflym yn ystod y degawdau diwethaf ac fe’i hystyrir yn un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol ledled y byd. Yng Nghymru, mae tua un o bob pedwar oedolyn 16 oed ac yn hŷn yn ordew.

Yn GIG y DU, mae ‘pedair haen’ o wasanaethau i gefnogi oedolion sydd dros bwysau ac yn ordew i golli pwysau. Yng Nghymru yn benodol, mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan. Mae cleifion yn aros hyd at bum mlynedd am wasanaethau haen 3, sy’n cynnig cymorth emosiynol a chorfforol, ac yn cael eu hatgyfeirio i gael llawdriniaeth os oes angen. Mae cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau Haen 3 yn ordew yn ddifrifol neu maen nhw’n ordew ac mae ganddyn nhw gyflyrau meddygol eraill. Mae risg y gall y cleifion hyn waethygu wrth aros i gael eu gweld.

Cynhaliodd yr ymchwilwyr adolygiad cyflym o astudiaethau ymchwil cyhoeddedig. Eu nod oedd dod o hyd i dystiolaeth o ymyriadau a allai atal iechyd a lles cleifion rhag gwaethygu wrth aros am wasanaethau Haen 3. Roedden nhw’n canolbwyntio ar ymyriadau y mae modd eu defnyddio o fewn y cyfyngiadau presennol ar adnoddau gofal iechyd.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Chwiliodd yr ymchwilwyr am ymchwil ar y pwnc hwn a oedd yn bodoli eisoes, gan edrych ar astudiaethau a gafodd eu cyhoeddi rhwng 2017 a 2024. Gan nad oedd unrhyw waith ymchwil penodol ar wasanaethau Haen 3, buon nhw’n edrych am ymyriadau i gefnogi oedolion â gordewdra ar unrhyw restr aros.

Beth wnaethom ei ganfod

Adolygodd yr ymchwilwyr saith astudiaeth berthnasol o amrywiaeth o wledydd. Ymhlith y mathau o ymyriadau a gafodd eu hadnabod oedd y canlynol:

  • Ymarfer Corff: dangosodd pedair astudiaeth beth tystiolaeth bod ymarfer corff yn gwella ansawdd bywyd a lles meddyliol.
  • Cwnsela drwy negeseuon testun, cwnsela addysgol, a chwnsela corfforol: cafodd pob un ei asesu trwy un astudiaeth. 

Yn gyffredinol, mae’r hyder yn y canfyddiadau yn isel iawn. Roedd angen offer costus a chael staff gofal iechyd i gyfrannu i gyflawni’r rhan fwyaf o ymyriadau ac nid oedd yr un o’r astudiaethau’n ystyried effeithiolrwydd o ran cost yr ymyriadau.

Ni chanfu’r adolygiad cyflym hwn unrhyw astudiaethau ar ymyriadau ar gyfer pobl ar restrau aros y gellir eu rhoi ar waith o ystyried y gyllideb a’r adnoddau sydd ar gael i wasanaethau rheoli pwysau haen 3 cyffredinol yng Nghymru.

Beth mae hyn yn ei olygu

Mae angen cymhwyso canfyddiadau’r adolygiad hwn yn ofalus. Mae angen astudiaethau mwy cadarn yn y DU sy’n trin a thrafod effeithiolrwydd a’r effeithiolrwydd o ran cost ymyriadau sy’n cefnogi cleifion sy’n aros am wasanaethau rheoli pwysau.

Gwybodaeth dechnegol

Mae ein Hadolygiadau Cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan gadw sylw at ragfarn ar yr un pryd. Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd nodi a syntheseiddio’r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd strategaethau graddol er mwyn cefnogi iechyd a lles unigolion ar y rhestrau aros, gyda ffocws ar ymyriadau ymarferol ac effeithlon o ran adnoddau a all gael ei weithredu o fewn cyfyngiadau gofal iechyd.

Rhanddeiliaid

Cafodd y cwestiwn ei gynnig gan Wasanaeth Rheoli Pwysau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Crynodeb hygyrch wedi’i ysgrifennu gan Praveena Pemmasani, Aelod o’r Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb Gweithredol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl ordew ar restrau aros gofal iechyd Adolygiad Cyflym

PDF, 465KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb Gweithredol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol er mwyn cefnogi iechyd a lles pobl ordew ar restrau aros gofal iechyd Adolygiad Cyflym (465 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig