Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Chukwudi Okolie, Rocio Rodriguez, Alesha Wale, Amy Hookway, Hannah Shaw, Alison Cooper, Ruth Lewis, Rebecca-Jane Law, Micaela Gal, Jane Greenwell, Adrian Edwards

Cyhoeddwyd ar: 1af Ebrill 2022

Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae amseroedd aros am lawdriniaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, yn enwedig gyda thriniaethau dewisol a thriniaethau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu hatal neu eu gohirio yn ystod pandemig COVID-19. Gall aros am gyfnod hir am lawdriniaeth effeithio’n negyddol ar gleifion a allai brofi canlyniadau iechyd gwaeth, iechyd meddwl gwael, cynnydd yn y clefyd, neu hyd yn oed farwolaeth. Efallai y byddai’n well defnyddio’r amser a dreulir yn aros am lawdriniaeth i baratoi cleifion ar gyfer llawdriniaeth.

Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd edrych ar sut y gallai ymyriadau arloesol, positif gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau yng Nghymru, ac mewn mannau eraill, ynghyd â gwella’r ffordd o ddarparu gofal iechyd.Bu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n ei gynnal yn sgil ceisiadau oddi wrth Fyrddau Iechyd ac eraill.

Nod yr adolygiad yw helpu cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol sy’n hirach nag erioed, a darparu sail ar gyfer strategaethau a pholisi i reoli’r rhestrau hyn.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2022 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2014 a 2021.

Beth wnaethom ei ganfod

Cynhwysodd yr adolygiad 48 o adolygiadau systematig,  gyda 23 o’r adolygiadau hyn yn ymwneud â llawdriniaethau orthopedig.  Roedd ymchwil arall yn cynnwys llawdriniaethau cardiaidd, fasgwlaidd, abdomenol ac amhenodol. 

  • Mae ymyriadau cyndriniaethol ymarfer corff, seicolegol a rhoi’r gorau i ysmygu o ryw fudd er nad yw, yn gyffredinol, yn bosibl mesur eu heffeithiolrwydd yn erbyn deilliannau llawfeddygol.
  • Mae ymyriadau addysgol yn gallu bod yn ddefnyddiol weithiau ond maen nhw hefyd yn gallu ychwanegu at orbryder ac effeithio ar iechyd meddwl.
  • Ni nodwyd unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â’r pandemig COVID-19 presennol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Mae angen ymchwil bellach:

  • i ddeall sut y mae is-grwpiau cleifion amrywiol, yn enwedig y rheini y mae anghydraddoldeb yn effeithio arnyn nhw, yn ymateb i ymyriadau cyndriniaethol.
  • sy’n edrych ar ragnodi cymdeithasol a dulliau eraill o weithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

Dylai llunwyr polisi, addysgwyr a chlinigwyr ystyried argymell bod ymyriadau o’r fath yn cael sylw yn y cwricwla ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

A allai’r GIG drawsffurfio cyfnodau aros fel eu bod yn gyfnodau paratoi buddiol – gan symud y pwyslais o ‘ba mor hir’ i ‘sut’ y gallai’r claf baratoi?

Gwybodaeth dechnegol

Mae ein Hadolygiadau Cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan dalu sylw i duedd ar yr un pryd.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol

PDF, 217KB

Llawrlwytho PDF - Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol (217 KB)

Llawrlwytho PDF