Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Chukwudi Okolie, Rocio Rodriguez, Alesha Wale, Amy Hookway, Hannah Shaw, Alison Cooper, Ruth Lewis, Rebecca-Jane Law, Micaela Gal, Jane Greenwell, Adrian Edwards
Cyhoeddwyd ar: 1af Ebrill 2022
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae amseroedd aros am lawdriniaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, yn enwedig gyda thriniaethau dewisol a thriniaethau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu hatal neu eu gohirio yn ystod pandemig COVID-19. Gall aros am gyfnod hir am lawdriniaeth effeithio’n negyddol ar gleifion a allai brofi canlyniadau iechyd gwaeth, iechyd meddwl gwael, cynnydd yn y clefyd, neu hyd yn oed farwolaeth. Efallai y byddai’n well defnyddio’r amser a dreulir yn aros am lawdriniaeth i baratoi cleifion ar gyfer llawdriniaeth.
Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd edrych ar sut y gallai ymyriadau arloesol, positif gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau yng Nghymru, ac mewn mannau eraill, ynghyd â gwella’r ffordd o ddarparu gofal iechyd.Bu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n ei gynnal yn sgil ceisiadau oddi wrth Fyrddau Iechyd ac eraill.
Nod yr adolygiad yw helpu cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol sy’n hirach nag erioed, a darparu sail ar gyfer strategaethau a pholisi i reoli’r rhestrau hyn.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2022 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2014 a 2021.
Beth wnaethom ei ganfod
Cynhwysodd yr adolygiad 48 o adolygiadau systematig, gyda 23 o’r adolygiadau hyn yn ymwneud â llawdriniaethau orthopedig. Roedd ymchwil arall yn cynnwys llawdriniaethau cardiaidd, fasgwlaidd, abdomenol ac amhenodol.
- Mae ymyriadau cyndriniaethol ymarfer corff, seicolegol a rhoi’r gorau i ysmygu o ryw fudd er nad yw, yn gyffredinol, yn bosibl mesur eu heffeithiolrwydd yn erbyn deilliannau llawfeddygol.
- Mae ymyriadau addysgol yn gallu bod yn ddefnyddiol weithiau ond maen nhw hefyd yn gallu ychwanegu at orbryder ac effeithio ar iechyd meddwl.
- Ni nodwyd unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â’r pandemig COVID-19 presennol.
Beth mae hyn yn ei olygu
Mae angen ymchwil bellach:
- i ddeall sut y mae is-grwpiau cleifion amrywiol, yn enwedig y rheini y mae anghydraddoldeb yn effeithio arnyn nhw, yn ymateb i ymyriadau cyndriniaethol.
- sy’n edrych ar ragnodi cymdeithasol a dulliau eraill o weithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Dylai llunwyr polisi, addysgwyr a chlinigwyr ystyried argymell bod ymyriadau o’r fath yn cael sylw yn y cwricwla ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.
A allai’r GIG drawsffurfio cyfnodau aros fel eu bod yn gyfnodau paratoi buddiol – gan symud y pwyslais o ‘ba mor hir’ i ‘sut’ y gallai’r claf baratoi?
Gwybodaeth dechnegol
Mae ein Hadolygiadau Cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan dalu sylw i duedd ar yr un pryd.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol
PDF, 217KB
Llawrlwytho PDF - Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol (217 KB)
Llawrlwytho PDF