Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth am frechiadau i oedolion

Mae brechlynnau’n helpu i atal clefydau rhag lledaenu. Cael eich brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i’ch amddiffyn rhag salwch difrifol. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned. Mae brechiadau’n achub miliynau o fywydau bob blwyddyn.

Efallai y bydd angen gwahanol frechiadau arnoch ar wahanol adegau yn ystod eich bywyd. Mae hyn yn dibynnu ar eich oedran, eich iechyd, neu ddigwyddiadau fel beichiogrwydd neu deithio. 

  • Os ydych chi’n feichiog, gallwch ymweld â’n tudalen we brechlynnau yn ystod beichiogrwydd i gael rhagor o wybodaeth. 
  • Ydych chi’n bwriadu teithio? Ewch i’n gwefan brechlynnau teithio i gael rhagor o wybodaeth.  
  • Os oes angen brechiadau arnoch chi oherwydd eich swydd, mynnwch gyngor gan eich cyflogwr.  

Oedolion sydd mewn mwy o berygl o heintiau 

Mae rhai oedolion yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn o ganlyniad i heintiau. Mae hyn yn cynnwys y bobl ganlynol: 

  • oedolion hŷn, a 
  • phobl â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. 

Wrth i ni fynd yn hŷn, nid yw ein system imiwnedd yn gweithio cystal ag yr arferai. Gall rhai cyflyrau iechyd hefyd wanhau’r system imiwnedd. Gall brechu leihau eich risg o salwch, problemau iechyd hirdymor a marwolaeth.  

Gwybodaeth:

Mae brechlynnau’n helpu i’ch amddiffyn pan nad yw’ch corff yn gallu ymladd yn erbyn y salwch yn hawdd.

Cliciwch ar y dolenni yn y tablau isod i ddysgu rhagor am y brechlynnau rheolaidd sydd ar gael i oedolion.

Brechlyn  Pwy sy’n gymwys?  Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn yn ei erbyn 
Yr Eryr • Pobl sy’n troi’n 65 oed 
• Pobl rhwng 70 a 79 oed   
• Pobl 18 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn 
Yr Eryr 
Clefyd niwmococol • Pobl 65 oed a hŷn  
• Oedolion sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i glefyd niwmococol 
• Pobl sy’n profi digartrefedd (o 1 Hydref 2026) 
Llid yr ymennydd (meningitis – haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn)  
Sepsis (ymateb sy’n peryglu bywyd i haint) 
Niwmonia (haint yn yr ysgyfaint)
Feirws Syncytiol Anadlol • Pobl 75 mlwydd oed a hŷn  
• Pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn  
• Menywod beichiog i amddiffyn eu babanod 
• Unigolion â chlefyd anadlol cronig  
• Unigolion sy’n imiwnoataliedig oherwydd clefyd neu driniaeth 
Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) sy’n gallu arwain at heintiau difrifol fel niwmonia

Brechlynnau tymhorol i oedolion 

Brechlyn  Pwy sy’n gymwys?  Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn yn ei erbyn 
Ffliw  • Pobl 65 oed neu hŷn 
• Pobl â chyflwr iechyd hirdymor 
Gall pobl eraill fod yn gymwys hefyd; gweler y dudalen we am gymhwysedd i gael y brechlyn ffliw 
Y ffliw – feirws sy’n cael ei ledaenu trwy besychu a thisian. 
COVID-19  • Pobl 75 oed neu hŷn 
• Pobl â system imiwnedd wan 
COVID-19 – clefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws. 

Brechiadau eraill i oedolion 

Efallai y bydd angen brechlynnau eraill neu ddosau ychwanegol ar rai pobl i helpu i’w hamddiffyn. Mae hyn yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd penodol. Mae hefyd yn cynnwys pobl sy’n fwy tebygol o ddod i gysylltiad â heintiau.   

Os yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol neu dîm gofal iechyd arbenigol. Gallant roi cyngor a chymorth i chi yn seiliedig ar eich anghenion chi.  

Mae’r tabl isod yn dangos enghreifftiau o frechlynnau eraill y gallech fod eu hangen a ble gallwch eu cael. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Efallai y bydd angen brechlynnau eraill arnoch yn dibynnu ar eich swydd, os ydych yn teithio dramor, neu eich amgylchiadau personol. 

Brechlyn  Pwy sy’n gymwys?  Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn rhagddo  Ble allwch chi gael y brechlyn? 
HPV  Dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) 45 oed neu’n iau  • Canser ceg y groth  
• Rhai mathau o ganserau’r pen a’r gwddf a chanserau anogenhedlol  
• Defaid gwenerol a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) 
Clinig iechyd rhywiol 
Brech M  Pobl sydd mewn mwy o berygl   Brech M (a’r frech wen)  Clinig iechyd rhywiol 
Men B ar gyfer gonoroea  Pobl sydd mewn mwy o berygl   Llid yr Ymennydd B (meningitis – haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a gonoroea  Clinig iechyd rhywiol 
Hepatitis B  Pobl sydd mewn mwy o berygl  Hepatitis B Practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig teithio neu glinig iechyd galwedigaethol 
Hepatitis A Pobl sydd mewn mwy o berygl  Hepatitis A Practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig teithio neu glinig iechyd galwedigaethol 

Os ydych chi wedi colli unrhyw frechiadau

Mae’n bwysig eich bod yn cael yr holl frechiadau rheolaidd sydd angen i chi eu cael. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi colli unrhyw frechiadau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu nyrs practis. Gallant wirio’ch cofnodion a threfnu unrhyw apwyntiadau brechu maen nhw’n eu darparu. Gallant hefyd eich cynghori ynghylch ble i gael brechiadau sy’n cael eu cynnig trwy wasanaethau eraill, fel clinigau iechyd rhywiol neu glinigau teithio.

Cwestiynau Cyffredin

Pam mae brechu’n bwysig i oedolion?

Diolch i frechu, mae clefydau fel y frech wen, polio a thetanws oedd yn arfer lladd neu effeithio ar filiynau o bobl naill ai wedi diflannu neu’n brin iawn yn y DU. Fodd bynnag, os bydd pobl yn rhoi’r gorau i gael eu brechu, gallai’r clefydau hyn ddychwelyd a lledaenu’n gyflym.  

Efallai y bydd angen dosau ychwanegol (pigiadau atgyfnerthu) o rai brechlynnau arnoch i gynnal eich amddiffyniad. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer heintiau fel y ffliw neu COVID-19. Gall yr amddiffyniad a geir gan y brechlynnau hyn bylu dros amser, a gall y feirysau newid. Mae cael pigiadau atgyfnerthu rheolaidd yn helpu i gynnal eich amddiffyniad ac yn lleihau’ch siawns o fynd yn sâl iawn. 

Sut mae brechlynnau’n gweithio?

Mae brechlynnau’n gweithio trwy ddysgu’ch system imiwnedd sut i frwydro yn erbyn heintiau. Maen nhw’n dysgu eich corff i adnabod ac ymateb i glefydau penodol cyn i chi eu dal.  

Mae’n fwy diogel i’ch corff ddysgu sut i ymladd salwch trwy frechu yn hytrach na thrwy ddal y clefyd. 

Gwyliwch y fideo canlynol i ddysgu rhagor am sut mae brechlynnau’n gweithio: Sut mae brechlynnau’n gweithio? — Oxford Vaccine Group (safle allanol, Saesneg yn unig)

A allaf i ddal haint hyd yn oed os ydw i wedi cael fy mrechu yn ei erbyn?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o atal salwch difrifol a achosir gan heintiau. Nid oes yr un brechlyn yn rhoi amddiffyniad sy’n 100% effeithiol, ond gall wneud y salwch yn llawer ysgafnach os byddwch chi’n ei ddal.