Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2023 i 2024

Manylion:

Awduron: Savannah King, Rick Lines

Cyhoeddwyd ar: 12fed Mawrth 2025

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cyflwyniad

Adroddiad ystadegol blynyddol ar y defnydd o alcohol a chyffuriau o setiau data’r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o’r data a adroddir yn rheolaidd yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae’r dystiolaeth wedi’i chasglu o nifer o ffynonellau data, gan gynnwys Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cronfa Ddata Lleihau Niwed (HRD) Cymru, Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (WNDSM), y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwasanaethau Addysg Awdurdodau Lleol a data’r Swyddfa Gartref.

Bwriedir i’r adroddiad hwn gael ei ddefnyddio ochr yn ochr ag adroddiad Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru ar ddata triniaeth ar gyfer yr un cyfnod, a hynny er mwyn cael proffil cyflawn ar raddfa a natur y camddefnydd o sylweddau, cyffuriau ac alcohol, yng Nghymru.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae strwythur yr adroddiad yn ei gwneud yn haws iddo edrych ar dystiolaeth sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau dros gydol oes – o’r fam yn defnyddio cyffuriau ac alcohol cyn geni, hyd at gamddefnyddio sylweddau mewn oedolion hŷn. Bydd y proffil hefyd yn dangos amrywiadau daearyddol yn y niwed iechyd sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol o ran derbyn cleifion i’r ysbyty, cyfraddau clefydau a marwolaethau, yn ogystal â thueddiadau dros amser.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2023 i 2024

PDF, 4MB

Llawrlwytho PDF - Proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2023 i 2024 (4 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig