Gwybodaeth i rieni newydd
Mae’r adnoddau gwybodaeth iechyd i rieni ar y dudalen hon wedi’u cynllunio i roi’r holl wybodaeth hanfodol a phwysig sydd ei hangen ar rieni i wneud y penderfyniadau gorau am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu plant.
Eich beichiogrwydd a’r enedigaeth
Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn o Pob Plentyn – Eich beichiogrwydd a’r enedigaeth, yn gynnar yn ystod eu beichiogrwydd. Os ydych chi neu’ch partner yn feichiog, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch bydwraig roi un i chi.
Llyfryn 1 Pob Plentyn: Eich beichiogrwydd a’r enedigaeth
Gallwch lawrlwytho eich copi o llyfryn 1 Pob Plentyn: Eich beichiogrwydd a’r enedigaeth yma.
Newydd-anedig hyd at 2 oed
Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn o Pob Plentyn Newydd-anedig hyd at 2 oed, yn fuan ar ôl i’w babi gael ei eni. Os ydych chi neu’ch partner wedi cael babi, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd roi un i chi.
Llyfryn 2 Pob Plentyn: Newydd-anedig hyd at 2 oed
Gallwch lawrlwytho copi o lyfryn Pob Plentyn: Newydd-anedig hyd at 2 oed yma.