Neidio i'r cynnwys

Gwnaeth brechiad rhag y ffliw atal dros 800 o dderbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru y gaeaf diwethaf 

Cyhoeddwyd ar: 01 Hyd 2026

Amcangyfrifir bod brechu rhag y ffliw yn rheolaidd wedi atal mwy nag 800 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig â ffliw yng Nghymru y gaeaf diwethaf. Heb frechu, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y byddai 50 y cant yn fwy o bobl wedi gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim gan y GIG i fanteisio ar y cynnig y gaeaf hwn a helpu i amddiffyn eu hunain rhag salwch difrifol ac arhosiad yn yr ysbyty. 

Gall ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i bobl â chyflyrau iechyd penodol fel asthma a diabetes, sy’n eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau difrifol os ydynt yn dal y ffliw.   

Mae oedolion â chlefyd cronig yr afu dros 40 gwaith yn fwy tebygol o brofi canlyniadau difrifol o’r ffliw, tra bod y rhai â systemau imiwnedd gwan yn wynebu risg sydd dros 45 gwaith yn uwch na’r boblogaeth gyffredinol. 

Bob blwyddyn, cynigir brechiad rhag y ffliw i helpu i amddiffyn oedolion hŷn, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, staff iechyd a gofal cymdeithasol, plant ifanc a menywod beichiog.  

Y llynedd, derbyniodd mwy na miliwn o bobl ledled Cymru eu brechiad rhag y ffliw, gan helpu i amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas. Roedd hyn yn cynnwys mwy na 200,000 o bobl sy’n byw gyda chyflyrau fel diabetes, asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chlefyd y galon. 

Cafodd mwy na 10,000 o fenywod beichiog yng Nghymru frechiad rhag y ffliw y llynedd hefyd, gan helpu i amddiffyn eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu babanod. Gall ffliw yn ystod beichiogrwydd arwain at gymhlethdodau difrifol i’r fam a’r baban. 

Mae brechu yn lleihau’r risg o ddal y ffliw, yn lleihau difrifoldeb y salwch ac yn helpu i amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gymhlethdodau difrifol. Mae hefyd yn lleihau’r tebygolrwydd o drosglwyddo’r feirws i eraill. 

Mae brechiadau rhag y ffliw am ddim y GIG ar gael i’r canlynol: 

  • Pobl sy’n 65 oed a hŷn 
  • Pobl rhwng chwe mis oed a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor 
  • Gweithiwyr iechyd a gofal cymdeithasol 
  • Menywod beichiog 
  • Preswylwyr cartrefi gofal 

Mae plant dwy neu dair oed (ar 31 Awst 2026), yn ogystal â phob disgybl ysgol gynradd ac uwchradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 11, hefyd yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw. Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i roi cydsyniad er mwyn amddiffyn eu plant. 

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae feirysau’r gaeaf fel y ffliw yn lledaenu’n hawdd a gallant daro pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd yn arbennig o galed.” 

“Mae effaith y rhaglen brechu rhag y ffliw yn glir ac mae’n ffordd rymus o’n hatgoffa nad yw brechu yn ymwneud ag amddiffyn unigolion yn unig, mae’n ymwneud ag amddiffyn pobl eraill o’ch cwmpas a lleihau pwysau’r gaeaf ar y GIG.” 

“Mae cael eich brechiad rhag y ffliw bob gaeaf yn un o’r ffyrdd gorau o gadw’n iach – mae’n cynnig yr amddiffyniad cryfaf sydd ar gael. 

“Mae’r amddiffyniad y mae’r brechiad rhag y ffliw yn ei roi yn pylu dros amser, a dyna pam mai cael y brechlyn bob blwyddyn yw’r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn rhag salwch difrifol a allai olygu ymweliad ag ysbyty.” 

“Bydd llawer o bobl hefyd yn gymwys i gael brechlynnau eraill y gaeaf, gan gynnwys y rhai ar gyfer COVID-19 ac RSV. Gyda’i gilydd, mae’r brechlynnau hyn yn cynnig yr amddiffyniad gorau yn erbyn y feirysau sy’n llenwi gwelyau ysbytai ac yn ychwanegu straen ar y GIG bob gaeaf. 

“Gall y ffliw effeithio ar eich trefn arferol – gwaith, ysgol, bywyd teuluol, cymdeithasu. Unwaith y bydd eich apwyntiad wedi’i archebu, gosodwch nodyn atgoffa i chi’ch hun fel nad ydych chi’n ei golli, a rhowch yr amddiffyniad gorau posibl i chi’ch hun a’r rhai o’ch cwmpas. 

Dywedodd Nerys Evans, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol: 

“Mae brechu yn parhau i fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol sydd gennym i amddiffyn ein cymunedau drwy fisoedd y gaeaf, ac rwy’n falch bod cymaint o bobl ledled Cymru yn manteisio ar y cynnig bob blwyddyn.” 

“Yn ogystal â chael eich brechu, mae digon y gallwn ei wneud i atal afiechydon y gaeaf rhag lledaenu. Mae golchi dwylo’n rheolaidd ac aros gartref pan fyddwch chi’n sâl yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad heintiau a all fod yn ddifrifol i rai pobl. 

“Cyrhaeddodd y ffliw yn gynnar y gaeaf diwethaf ac arhosodd o gwmpas am fisoedd, gan roi straen ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Byddwn i’n annog pawb sy’n gymwys i dderbyn eu cynnig i gael eu brechu. Ewch i gael eich brechu a dechreuwch y tymor wedi’ch amddiffyn yn iawn.” 

Mae manylion llawn ar sut i archebu brechlyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.