Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu grant o £8 miliwn i drawsnewid gwasanaethau rheoli pwysau yng Nghymru
Cyhoeddwyd ar: 27 Meh 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chefnogaeth gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd, wedi derbyn £8m o arian grant gan Innovate UK i ddatblygu gwasanaethau rheoli pwysau arloesol yng Nghymru.
Bydd dyfarnu’r arian hwn yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd dros bwysau ac yn ordew a’r rhai sydd ar restr aros rheoli pwysau ar hyn o bryd, trwy ddull hybrid newydd sy’n cyfuno cefnogaeth gymunedol ag arloesedd digidol, gan weithio gyda sefydliadau lleol, gweithwyr dieteteg proffesiynol a gweithwyr iechyd eraill, tuag at ofal agosach at adref sy’n fwy personol.
Bydd yr arian yn galluogi i lwybr digidol gael ei ddatblygu a fydd yn darparu gofal cofleidiol i gleifion ac yn eu cefnogi ym mhob cam o’u taith. Nod y llwybr newydd hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl atgyfeirio eu hunain a chael cefnogaeth yn gynharach, gan helpu i atal gordewdra rhag mynd yn fwy difrifol, pan fydd hi’n anoddach ei wrthdroi. Mae arian grant annibynnol wedi cael ei ddarparu gan Eli Lilly and Company Limited yn ogystal â’r arian a gyfrannwyd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy Innovate UK.
Mae gorbwysau a gordewdra’n parhau i fod yn un o’r heriau iechyd y cyhoedd mwyaf dybryd sy’n wynebu Cymru heddiw gyda mwy na chwech o bob deg oedolyn (dros 60%) bellach dros bwysau neu’n ordew. Mae tua un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru wedi’i ddosbarthu fel gordew, cyfradd sydd ymhlith yr uchaf o wledydd y DU. Mae bod dros bwysau’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd hirdymor difrifol, gan gynnwys diabetes math 2, clefyd y galon a rhai mathau o ganser, gan roi pwysau cynyddol ar wasanaethau’r GIG ac amlygu pwysigrwydd rhoi cymorth yn gynnar.
Mae un o bob wyth derbyniad i’r ysbyty yn gysylltiedig â gordewdra ac mae costau uniongyrchol gordewdra a gorbwysau’n fwy na £500 miliwn bob blwyddyn.
Nid yw gordewdra’n effeithio ar bawb yn gyfartal. Mae cyfraddau tua 10–15% yn uwch yn y cymunedau lleiaf cefnog nag yn y rhai mwyaf cefnog, ac mae mwy o effaith yn gyffredinol ar fenywod, pobl ag anableddau dysgu a phobl o rai cefndiroedd lleiafrifol ethnig. Mae lefelau cynyddol o orbwysau a gordewdra ymhlith plant yn peri pryder pellach o ystyried y canlyniadau hirdymor ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol. Mae mynd i’r afael â gordewdra’n gofyn am ymdrech gydlynol ar draws llywodraeth, cymunedau ac unigolion i fynd i’r afael â’i achosion rhyng-gysylltiedig cymhleth.
Dywedodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: “Rydyn ni’n gwybod y gall rheoli pwysau fod yn hynod o anodd, a gall byw gyda gordewdra gael effaith arwyddocaol ar iechyd corfforol a llesiant meddyliol, yn ogystal â chynyddu’r risg o gyflyrau hirdymor difrifol”
“Rydyn ni hefyd yn gweld pobl yn magu pwysau ar oedran cynharach a pharhau i fagu pwysau dros amser. Mae hyn yn cynyddu’r risg o gyflyrau fel diabetes math 2, clefyd y galon a rhai mathau o ganser, a gall effeithio ar fywyd bob dydd, gan ei gwneud hi’n anoddach aros yn egnïol, gweithio a theimlo’n iach.
“Felly rydyn ni wrth ein bodd i sicrhau’r arian hwn. Bydd yn ein galluogi i dreialu dulliau cymunedol arloesol a chyfannol o reoli pwysau, a chynyddu eu graddfa. Rydyn ni’n gwybod na fydd gwneud yr un peth o hyd yn ddigon i ymdopi â maint yr her yma, mae hyn yn ymwneud â datblygu ffyrdd newydd o gefnogi pobl, gan ei gwneud hi’n haws cael cefnogaeth yn gynharach, yn agosach at adref, ac mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’u bywydau bob dydd.
Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Keith Reid: “Mae gordewdra’n gyflwr cymhleth sydd â chanlyniadau difrifol i iechyd hirdymor, ac rydyn ni’n gwybod bod ymyrraeth gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i bobl fyw bywyd iachach.” Drwy gefnogi pobl yn gynharach, cyn i bwysau ddod yn anos eu rheoli, gallwn leihau’r risg o gyflyrau sy’n effeithio ar ansawdd bywyd ac yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau clinigol. Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyrraedd pobl yn gynt, gyda chefnogaeth yn agos at adref, er mwyn gwneud gwahaniaeth parhaol i iechyd pobl.”