Neidio i'r cynnwys

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog gweithredu ar unwaith yn sgil cyhoeddi rhybudd gwres coch 

Cyhoeddwyd ar: 24 Meh 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog pobl ledled Cymru i aros yn ddiogel a gwirio iechyd teulu, ffrindiau a chymdogion wrth i rybudd tywydd coch am wres eithafol ddod i rym. 

Er y gall tywydd cynnes fod yn ddymunol, gall gwres eithafol gael effeithiau difrifol ar iechyd. Yng Nghymru, lle nad yw cartrefi a threfnau dyddiol wedi’u cynllunio ar gyfer tymereddau uchel parhaus, gall pobl fynd yn sâl yn gyflymach nag y gallent ei ddisgwyl. 

Gall salwch sy’n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, ond mae pobl hŷn, babanod a phlant bach, a’r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol yn wynebu’r risg fwyaf. Gall pobl sy’n gweithio yn yr awyr agored, yn byw mewn fflatiau ar y llawr uchaf, neu sy’n agored i’r gwres am gyfnodau hir fod yn arbennig o agored i niwed hefyd. 

Cynghorir pobl i: 

• Yfed dŵr yn rheolaidd ac osgoi alcohol, caffein a diodydd llawn siwgr 

• Aros allan o’r haul ac yn y cysgod cymaint â phosibl 

• Cadw cartrefi’n oer drwy gau llenni a ffenestri yn ystod y dydd a’u hagor yn y nos, pan fydd y tymheredd yn is 

• Gwisgo dillad esmwyth ac ysgafn, a defnyddio eli haul SPF 30+ gydag amddiffyniad UVA o leiaf 4 seren 

  • Mae dŵr agored yn dal yn oer iawn ac mae sioc dŵr oer yn beryglus iawn. Os ydych chi am oeri i lawr mewn dŵr agored, ewch i mewn yn araf. Defnyddiwch leoedd sydd ag achubwyr bywyd a pheidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun neu ar ôl yfed neu ddefnyddio cyffuriau. Mewn argyfwng, cofiwch y cyngor achub bywyd: #ArnofioIFyw 

Gall hyd yn oed gweithredoedd syml achub bywydau. Gall gwirio iechyd cymydog, ffrind neu berthynas a allai fod yn fwy agored i niwed wneud gwahaniaeth hollbwysig yn ystod cyfnodau o wres eithafol. 

Mae angen rhoi sylw ychwanegol i fabanod a phlant bach. Osgowch orchuddio pramiau neu fygis, gan y gall hyn ddal gwres. Defnyddiwch ddillad gwely ysgafn a chadwch ardaloedd cysgu mor oer â phosibl — mae ystafelloedd ar y llawr gwaelod yn aml yn oerach. 

Cadwch lygad allan am arwyddion o orflinder gwres. Os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl yn ystod tywydd poeth, symudwch i le oer, gorffwys ac yfed dŵr. Os bydd y symptomau’n gwaethygu, gall arwain at drawiad gwres, sy’n argyfwng meddygol.   

Dylai pobl osgoi gweithgarwch egnïol yn ystod rhannau poethaf y dydd ac ail-drefnu ymarfer corff, mynd â’r ci am dro a mynd ar negeseuon i’r bore bach neu’r hwyrnos.  

Dywedodd yr Athro Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall y lefel hon o wres effeithio ar unrhyw un, ond rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl mewn llawer mwy o berygl. Yng Nghymru, rydyn ni’n llai cyfarwydd â thywydd poeth am gyfnod hir, sy’n golygu y gall pobl gael eu dal allan. Gall cymryd camau syml i aros yn oer, wedi’ch hydradu ac â chysylltiad ag eraill atal afiechyd difrifol. Gallai gwirio iechyd rhywun achub bywyd.” 

Beth i’w wneud os ydych chi’n teimlo’n sâl yn y gwres  

  • Dwedwch wrth rywun  
  • Symudwch i rywle oerach 
  • Sipiwch ddŵr oer ac osgowch ddiodydd llawn siwgr, alcohol, diodydd poeth neu gaffein 
  • Ffoniwch GIG 111 i gael cyngor neu 999 mewn argyfwng 

I gael rhagor o gyngor, edrychwch ar ganllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru ar dywydd poeth.