Neidio i'r cynnwys

Brechiad MenB i gael ei gynnig i bobl ifanc yng Nghymru cyn y flwyddyn academaidd newydd

Cyhoeddwyd ar: 12 Meh 2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad am ddim rhag clefyd meningococol B (MenB) cyn y flwyddyn academaidd newydd, a hynny mewn ymateb i gyfres o achosion ledled y DU.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu pobl ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 2007 ac 31 Awst 2008, ynghyd ag unrhyw un a anwyd ar ôl 31 Rhagfyr 2001 a fydd yn dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn. Mae’n dilyn brigiad sylweddol o achosion MenB ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint ym mis Mawrth 2026, ynghyd â chlystyrau pellach mewn mannau eraill yn y DU.

Gall MenB achosi llid yr ymennydd a sepsis, a gall y ddau ohonynt ddatblygu’n gyflym iawn i achosi afiechyd sy’n peryglu bywyd. Er bod y clefyd yn anghyffredin, mae pobl ifanc sy’n mynd i brifysgolion neu leoliadau cyfatebol mewn mwy o berygl.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pobl ifanc sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf mewn mwy o berygl o gael Meningitis B, pan fyddan nhw’n cymysgu â grwpiau newydd o bobl wrth fwynhau eu hamgylchedd newydd. Bydd cael dau ddos o’r brechiad hwn, yn ddelfrydol cyn iddyn nhw adael am y brifysgol, yn rhoi’r amddiffyniad gorau iddyn nhw rhag yr haint hwn, a all achosi salwch mor ddifrifol.”

Pwy sy’n gymwys a sut mae cael mynediad at y brechlyn?

Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn rhaglen dau ddos. Bydd y rhai rhwng 17 a 18 oed (a anwyd rhwng 1 Medi 2007 ac 31 Awst 2008) yn cael llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd o 6 Gorffennaf ymlaen yn rhoi manylion am sut i gael eu brechlyn. Bydd angen i’r rhai o dan 25 oed a fydd yn dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, gysylltu â’u bwrdd iechyd ar ôl 20 Gorffennaf i gael rhagor o wybodaeth.

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn rhag clefyd meningococol A, C, W ac Y (MenACWY) ym mlwyddyn 9 (13-14 oed) ers 2015. Mae’r brechlyn hwn wedi bod yn effeithiol iawn wrth leihau nifer yr achosion o Lid yr Ymennydd neu Sepsis. Fodd bynnag, nid yw’r brechlyn MenACWY yn amddiffyn rhag MenB. Felly, er mwyn sicrhau’r amddiffyniad gorau, anogir yr holl bobl ifanc sy’n gymwys i wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechlyn MenACWY a’r ddau ddos o’r brechlyn MenB.

Mae’r rhaglen yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2026. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog yr holl bobl ifanc sy’n gymwys yn daer i wneud yn siŵr eu bod wedi cael pob brechlyn, gan gynnwys y ddau ddos o MenB, yn ddelfrydol cyn iddynt adael am y brifysgol.