Oedolion ifanc sydd fwyaf mewn perygl o amgylcheddau bwyd nad yw’n iach
Cyhoeddwyd ar: 02 Meh 2026
Yn ôl ein hastudiaeth newydd, mae oedolion ifanc yn bwyta bwyd tecawê, prydau parod ac yn bwyta mewn caffis a bwytai yn fwy nag unrhyw grŵp oedran arall.
Canfu arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 26 y cant o oedolion ifanc (16 i 29 oed) wedi bwyta bwyd tecawê ar o leiaf ddau ddiwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o’u cymharu â 18 y cant o bobl 30 i 49 oed, 8 y cant o bobl 50 i 69 oed, a 2 y cant o’r rhai 70 oed a hŷn.
Mae’r mathau hyn o brydau bwyd yn aml yn gyfleus ac yn hygyrch, ond gallant gynnwys mwy o fraster, siwgr a halen. Gall deietau sy’n cynnwys llawer o’r bwydydd hyn gynyddu’r risg o fod dros bwysau neu’n ordew, sydd yn ei dro yn cael ei gysylltu â chanlyniadau iechyd gwaeth, yn cynnwys clefyd y galon, rhai mathau o ganser a diabetes math 2. Mae hyn yn tynnu sylw at sut y gallai amgylcheddau bwyd nad yw’n iach fod yn sbarduno deiet gwaeth a risg uwch o ordewdra.
Yn ogystal, canfu’r arolwg fod mwy na hanner yr ymatebwyr (57 y cant) yn bwyta cinio oddi cartref o leiaf weithiau ac o’r rhain, mae 60 y cant yn ei brynu wrth fynd. Ymhlith yr oedolion ifanc sy’n bwyta cinio oddi cartref, mae 77 y cant yn ei brynu wrth fynd – dyma’r uchaf o unrhyw grŵp oedran i wneud hynny. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod opsiynau bwyd iach ar gael i bawb sydd angen bwyta wrth fynd.
Adroddwyd hefyd am wahaniaethau mewn ymddygiadau maint dognau ar draws y sampl gyfan. Dywedodd bron i chwarter o’r ymatebwyr (24 y cant) eu bod yn gweini dogn mawr iddyn nhw eu hunain tra bod dros hanner (53 y cant) yn dweud nad ydyn nhw’n gadael bwyd ar eu plât yn aml, hyd yn oed pan fyddan nhw’n teimlo’n llawn.
Oedolion ifanc oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gweini dogn mawr iddyn nhw eu hunain (35 y cant). Mae hyn o’i gymharu â 32 y cant o bobl 30 i 49 oed, 21 y cant o bobl 50 i 69 oed, a 12 y cant o’r rhai 70 oed a hŷn.
At ei gilydd, canfu’r arolwg amrywiad mewn ymddygiadau bwyta ar draws y boblogaeth. Roedd oedolion ifanc, gwrywod, pobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a phobl sy’n ystyried eu hunain yn drymach o ran pwysau yn fwy tebygol o adrodd am ymddygiadau bwyta sy’n gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o fod dros bwysau neu’n ordew.
Mae bywydau iach yn cael eu llunio gan ein lleoedd bob dydd – mae hyn yn cynnwys y lleoedd mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn bwyta. Mae gwneud opsiynau iachach yn haws i bobl eu dewis a’u gwneud yn fwy hygyrch ac ar gael yn rhan allweddol o wella iechyd y boblogaeth.
Dywedodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae bod dros bwysau neu’n ordew yn effeithio ar dros 60% o oedolion yng Nghymru ac mae pobl fwyaf tebygol o ennill pwysau pan fyddant yn oedolion ifanc. Mae’r hyn rydyn ni’n ei fwyta a faint rydyn ni’n ei fwyta yn effeithio ar ein pwysau. Mae’r gwaith hwn wedi canfod mai oedolion ifanc a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig sy’n wynebu’r heriau mwyaf o ran gwneud dewisiadau bwyd iachach a bod yr amgylcheddau bwyd o’u cwmpas yn gwneud bod yn iach yn anoddach, yn hytrach nag yn haws.
“Rydyn ni’n gwybod bod pobl eisiau gwneud dewisiadau bwyd gwell ond eu bod yn teimlo bod eu hamgylchedd yn gweithio yn eu herbyn. Mae angen i ni ei gwneud hi’n haws i bobl wneud dewisiadau iach drwy ddarparu opsiynau iachach.”
Dywedodd Dr Catherine Sharp, Prif Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ymchwil hon yn darparu tystiolaeth gadarn‑ sy’n benodol i Gymru ar sut mae amgylcheddau bwyd a’u rhyngweithiadau â’n hymddygiadau yn dylanwadu ar batrymau bwyta ledled y genedl. Mae deall sut mae hyn yn gweithio yn y byd go iawn yn hanfodol ar gyfer datblygu polisi effeithiol.
“Mae’r ymchwil hon yn dangos ble mae ymddygiadau sy’n gysylltiedig â risg uwch o fod dros bwysau neu’n ordew fwyaf cyffredin ac yn darparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ymyriadau wedi’u targedu i wella iechyd yng Nghymru.”