Neidio i'r prif gynnwy

Pam fod rhaid i mi aros?


Pam mae'n rhaid i mi aros am fy mrechlyn COVID-19? | Rwyf yn un o'r grwpiau rhestredig uchod, pam mae'n rhaid i mi aros? | Ble gallaf gael brechiad COVID-19? | Beth os nad yw'r ganolfan a gynigir i mi yn hawdd i'w chyrraedd? | A allaf dalu am frechlyn COVID-19 yn breifat neu mewn fferyllfa? | Rhagor o Wybodaeth 

 

Aildrefnu'r ail apwyntiad brechlyn COVID-19

Oherwydd cyngor newydd gan Brif Swyddogion Meddygol y DU ar 30 Rhagfyr 2020, mae angen i ni aildrefnu'r ail apwyntiad ar gyfer brechu coronafeirws i'r rhai sydd eisoes wedi cael un dos. Y cyngor meddygol newydd yw bod ail ddos y brechlyn yn parhau i fod yn effeithiol pan gaiff ei roi hyd at 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf, ac y dylid ei roi tuag at ddiwedd y cyfnod hwn o 12 wythnos. Bydd y canllawiau newydd yn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael budd o ddos cyntaf y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os ydych wedi derbyn dos cyntaf, nid oes angen i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd, byddwch yn cael eich aildrefnu'n awtomatig a'ch galw i'ch apwyntiad newydd.

Er bod angen dau ddos o'r brechlyn i gael yr amddiffyniad hirdymor gorau, yn y tymor byr bydd gan unigolion lefelau uchel o amddiffyniad o'r dos cyntaf a gafwyd. Nid oes unrhyw bryderon diogelwch yn y canllawiau newydd, ac ni fydd yn effeithio'n negyddol ar effeithiolrwydd y cwrs cyflawn o frechlyn COVID-19.

 

Pam mae'n rhaid i mi aros am fy mrechlyn COVID-19?

Mae'r bobl hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o gymhlethdodau COVID-19 yn cael cynnig y brechlyn yn gyntaf.

Yn y DU, mae dau frechlyn COVID-19 (sy'n cael eu gwneud gan Pfizer BioNTech ac AstraZeneca) yn debygol o gael eu cynnig yn gyntaf. Gyda'r ddau frechlyn, mae angen dau ddos ar wahân i ddarparu'r amddiffyniad gorau. Ni fydd gan y brechlynnau hyn awdurdodiad marchnata llawn (trwydded) y DU ond maent wedi'u hawdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)  yn seiliedig ar asesiad llawn o ddiogelwch ac effeithiolrwydd. 

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sef grŵp annibynnol o arbenigwyr, wedi argymell bod y GIG yn cynnig y brechlynnau hyn i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddal y clefyd ac o ddioddef cymhlethdodau difrifol neu farw o COVID-19, ac i amddiffyn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys oedolion hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen. Pan fydd mwy o frechlyn ar gael, bydd y brechlynnau'n cael eu cynnig i bobl eraill sydd mewn perygl cyn gynted â phosibl.

 

Dylech gael y brechlyn pan gaiff ei gynnig os ydych yn:
  • berson sy'n byw neu'n gweithio mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • gweithiwr gofal iechyd rheng flaen
  • gweithiwr gofal cymdeithasol rheng flaen
  • gofalwr cartref sy'n darparu gofal personol

 

Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig yn y drefn ganlynol i'r rhai:
  • 80 oed a throsodd.
  • 75 oed a throsodd.
  • 70 oed a throsodd ac oedolion y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • 65 oed a throsodd.
  • y rhai 16 i 64 oed sydd â chyflyrau iechyd hirdymor (gweler y rhestr isod)
Mae cyflyrau iechyd hirdymor yn cynnwys cyflyrau fel:
  •    canser y gwaed (fel lewcemia, lymffoma neu fyeloma)
  •    diabetes
  •    problem gyda'r galon
  •    anhwylder ar y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys broncitis, emffysema neu asthma difrifol
  •    clefyd yr arennau
  •    clefyd yr afu
  •    imiwnedd is yn sgil clefyd neu driniaeth (fel haint HIV, meddyginiaeth steroidau, cemotherapi neu radiotherapi)
  •    ar ôl cael trawsblaniad organ
  •    ar ôl cael strôc neu bwl o isgemia dros dro (TIA)
  •    cyflwr niwrolegol neu gyflwr sy'n nychu'r cyhyrau gan gynnwys epilepsi a dementia
  •    anabledd dysgu difrifol neu ddwys
    •    Syndrom Down
  •    problem gyda'ch dueg, e.e. clefyd y crymangelloedd, neu ar ôl i'ch dueg gael ei thynnu
  •     yn ddifrifol dros bwysau (BMI o 40 ac uwch)
  •     salwch meddwl difrifol

Bydd pawb sydd yn y grŵp eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn gymwys i gael brechlyn COVID-19. Gall hyn ddibynnu ar ddifrifoldeb eich cyflwr. Gall eich meddyg teulu roi cyngor ynghylch a ydych yn gymwys.

 

Ar yr un pryd, bydd y brechlyn hefyd yn cael ei gynnig i'r:
  •  
  • rhai sy'n brif ofalwr person oedrannus neu anabl y gallai ei les fod mewn perygl os yw'r gofalwr yn mynd yn sâl
  • oedolion iau mewn lleoliadau nyrsio a phreswyl arhosiad hir, a'r staff
  • Ar ôl y grwpiau hyn, bydd y rhai 50 i 64 oed yn cael cynnig brechiad. 
  • Pan fydd mwy o frechlyn ar gael yn 2021 byddwn yn ei gynnig i ragor o grwpiau.

Rwyf yn un o'r grwpiau rhestredig uchod, pam mae'n rhaid i mi aros? 

Bydd brechlynnau COVID-19 ar gael wrth iddynt gael eu cymeradwyo i'w defnyddio, ac wrth i bob swp gael ei weithgynhyrchu a'i ddarparu. Bydd pobl yn cael eu galw mewn trefn, ac anfonir apwyntiad atoch pan ddaw eich tro cyn gynted ag y bydd digon o frechlyn ar gael.
 

Ble gallaf gael brechiad COVID-19?

Bydd brechlynnau'n cael eu cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd i'r ganolfan frechu agosaf.  Bydd rhai timau brechu yn ymweld â phobl i gynnig y brechlyn, er enghraifft mewn cartrefi gofal. 
 

Beth os nad yw'r ganolfan a gynigir i mi yn hawdd i'w chyrraedd?

Ceisiwch fynd i'r ganolfan frechu a gynigir i chi. Os na allwch fynd i'r ganolfan a gynigir i chi efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gael y brechlyn mewn lleoliad mwy cyfleus.  
 

A allaf dalu am frechlyn COVID-19 yn breifat neu mewn fferyllfa? 

Na allwch, dim ond i grwpiau cymwys y mae'r brechiad COVID-19 ar gael am ddim drwy'r GIG.

 

Rhagor o Wybodaeth

You can find out more information about COVID-19 vaccines, including their contents and possible side effects at https://111.wales.nhs.uk/coronavirus(2019ncov)?locale=cy and www.gov.uk/government/collections/mhra-guidance-on-coronavirus-covid-19

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau a amheuir ar-lein yn https://coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk/   neu drwy lawrlwytho'r ap Cerdyn Melyn.

I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio'ch gwybodaeth, ewch i www.nhsdirect.wales.nhs.uk/lifestylewellbeing/yourinfoyourrights

I archebu rhagor o gopïau o'r daflen hon, ewch i https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/adnoddau-gwybodaeth-iechyd/