Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog rhieni i frechu plant ifanc rhag y feirws ffliw yr hydref hwn, i'w hamddiffyn rhag cael heintiau eilaidd.
Mae cyfraddau canfod canser yn adfer yn arafach ar gyfer rhai mathau o ganser i’w cymharu ag eraill, yn ôl dadansoddiad newydd o samplau patholeg gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn galw am gamau gweithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant yng Nghymru.
Mae arolwg ciplun o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 a 10 o sampl fach o ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi canfod bod cyfran y disgyblion blwyddyn 10 sy'n fêpio bob dydd tua naw i 10 y cant.
Wrth i ysgolion baratoi ar gyfer dychwelyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynorthwyo'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, wrth atgoffa pobl i aros gartref ac osgoi cysylltiad ag eraill os ydynt yn sâl ac â thymheredd uchel.
Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos – diwrnod i dynnu sylw at effeithiau andwyol sylweddau, addysgu sut y gallwn helpu'r rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac yn y pen draw cofio'r rhai rydym wedi'u colli oherwydd gorddos.
Dangosodd ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod Cymru wedi profi cynnydd cyflym mewn fepio gan bobl ifanc oed ysgol uwchradd rhwng 2019 a 2022, yn enwedig ymhlith merched.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i greu gweledigaeth ar gyfer ymchwil iechyd cyhoeddus academaidd yng Nghymru.
Bydd yr Athro Jim McManus yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant newydd. Bydd Claire Birchall hefyd yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ein Cyfarwyddwr Dros Dro Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol.