Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol – sy’n nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau – yn dod i ddiwedd ei gylch pedair blynedd. Rydym nawr yn lansio ymgynghoriad gyda’r cyhoedd am dri mis.
Yn arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd 6 o bob 10 o bobl y byddent yn debygol (38 y cant) neu'n debygol iawn (23 y cant) o fanteisio ar y cynnig o hyfforddiant gwyliwr trais wyneb yn wyneb pe bai'n cael ei gynnig.
Ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd, mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar feirysau a gludir yn y gwaed, gan gynnwys heintiau hepatitis B, hepatitis C, a HIV, yn dangos y bu cynnydd tuag at ddileu'r heintiau hyn fel problem iechyd cyhoeddus erbyn 2030 yng Nghymru.
Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a phrofiadau gwledydd wedi canfod bod gan geiswyr lloches, ffoaduriaid, a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli ganlyniadau iechyd meddwl gwaeth na rhai'r boblogaeth gyffredinol.
Mae Diogelwch Dŵr Cymru wedi ymuno â mam o Sir Benfro ar Ddiwrnod Atal Boddi’r Byd i helpu i atal teuluoedd eraill rhag ddioddef y drychineb y mae hi wedi’i ddioddef ar ôl colli ei mab.
Mae ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o friffiau i drafod beth sydd angen ei wneud i greu tai iachach yng Nghymru.
Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a llesiant ledled Cymru.
Mae arbenigwyr iechyd yng Nghymru yn pryderu am nifer y sylweddau sy'n cael eu prynu o “fferyllfeydd ar-lein” fel y'u gelwir yn y gred eu bod yn gynhyrchion fferyllol cyfreithlon.
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd rhywiol wedi dangos mwy o fynediad at brofion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a manteisio ar y profion hynny.
Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canfod y gallai'r telerau sy'n caniatáu i'r DU ymuno â bloc masnachu mawr yn ardal Cefnfor India a'r Môr Tawel ei gwneud yn fwy anodd i Gymru gymryd camau gweithredu iechyd cyhoeddus cryf yn y dyfodol i ddiogelu iechyd a llesiant.