Neidio i'r prif gynnwy

Dywedwyd wrthyf nad oes angen i mi gael prawf sgrinio serfigol mwyach oherwydd fy oedran. A yw'n ddiogel peidio ag anfon gwahoddiadau ataf os nad ydych wedi archwilio fy nghelloedd?

Ydy, mae'n ddiogel. Yng Nghymru, mae unigolion a all gael sgrinio serfigol yn cael eu gwahodd hyd at eu penblwyddi’n 64 oed. Yna, bydd y rhaglen sgrinio yn dod i ben i chi oherwydd bod unigolion nad oes ganddynt HPV (Feirws Papiloma Dynol) yn annhebygol iawn o ddatblygu canser ceg y groth yn ddiweddarach.
Er bod canser ceg y groth yn gallu datblygu mewn unigolion hŷn, yn aml, mae’n digwydd i bobl nad ydynt wedi cael eu sgrinio, neu i bobl nad ydynt wedi cael digon o brofion sgrinio yn y gorffennol.
Hyd yn oed pe bai pob un o'ch profion blaenorol yn normal, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg am unrhyw waedu anarferol, rhedlif neu symptomau eraill.


Mae hyn yn cynnwys:


• Gwaedu ar ôl rhyw, rhwng eich mislif neu ar ôl y menopos
• Rhedlif newydd neu wahanol o'r wain (newid i’r lliw, i’r maint neu i’r trwch)
• Poenau yng ngwaelod eich bol neu eich cefn, neu boen yn ystod rhyw