Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi newid y bwlch rhwng gwahoddiadau ar gyfer sgrinio i bob pum mlynedd?

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi argymell bod rhaglenni sgrinio serfigol yn gwahodd pawb sydd â cheg y groth, rhwng 25 a 64 mlwydd oed, bob pum mlynedd ar ôl iddynt gael canlyniad HPV negatif.

Mae feirws papiloma dynol (HPV) yn feirws sy'n achosi bron pob achos o ganser ceg y groth. Yn 2018, cyflwynodd Sgrinio Serfigol Cymru brofion sgrinio am HPV. Mae'r prawf hwn yn fwy effeithiol wrth nodi pobl sydd â risg uwch o ddatblygu newidiadau i gelloedd a all achosi canser ceg y groth.

Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel ymestyn y cyfnod rhwng profion sgrinio serfigol (ceg y groth) ar gyfer pobl nad oes ganddynt HPV. Gwnaeth Sgrinio Serfigol Cymru y newid hwn o 1 Ionawr 2022.

Mae’r newid hwn yn berthnasol i bobl y bydd eu canlyniad sgrinio rheolaidd nesaf yn dangos nad oes ganddynt HPV. Mae hyn yn golygu bod eu risg o ddatblygu canser ceg y groth o fewn y pum mlynedd nesaf yn isel iawn.

Byddwn yn edrych ar y celloedd os canfyddir HPV risg uchel mewn sampl sgrinio serfigol. Mae’n bosibl y bydd yr apwyntiadau dilynol ar gyfer yr unigolion hyn yn wahanol yn dibynnu ar ganlyniadau eu profion.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich canlyniadau a HPV