Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond nid oeddech yn gallu archwilio fy nghelloedd. Ydy hi'n bosibl fod gen i ganser ceg y groth?

Gan eich bod yn HPV positif a chan nad ydym wedi archwilio’ch celloedd, ni allwn roi canlyniad manwl gywir i chi. Mae canser serfigol yn anghyffredin iawn, fodd bynnag rydym yn deall y gall oedi cyn derbyn canlyniadau eich prawf beri pryder i chi.

Os ydych yn pryderu am hyn, siaradwch â’r meddyg neu’r nyrs a gymerodd eich sampl neu cysylltwch â’r nyrs sgrinio serfigol ranbarthol a all roi cyngor i chi yn seiliedig ar eich hanes sgrinio personol.  Mae’n bwysig nad ydych yn cael ail brawf sgrinio serfigol o fewn 12 wythnos i gael eich prawf sgrinio gwreiddiol er mwyn galluogi’r celloedd i dyfu’n ôl.