Mae'r clinig colposgopi wedi archwilio’ch ceg y groth ac ni ddaeth o hyd i unrhyw newidiadau. Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn cymryd tua 15 i 20 mlynedd o’r cyfnod y caiff pobl â system imiwnedd normal eu heintio cyn y byddant yn datblygu canser ceg y groth. Felly mae’n annhebygol iawn y byddwch yn datblygu canser ceg y groth sy'n gysylltiedig ag HPV yn ystod y tair blynedd nesaf.