Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth bwysig i fenywod 60 oed a throsodd

 

 

Pam yr anfonwyd y wybodaeth hon ataf?

Gwnaethom eich gwahodd am brawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) 12 mis yn ôl, ac nid ydym wedi canlyniad ar eich cyfer eto. Gan y byddwch yn 65 oed neu
drosodd ymhen pum mlynedd, ni fyddwn yn anfon rhagor o wahoddiadau atoch.

 

Pam y dylwn fynd i gael prawf sgrinio serfigol nawr?

Mae'r prawf hwn yn newydd. Ers 2018, mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi bod yn profi menywod am y feirws sy'n achosi canser ceg y groth (Feirws Papiloma Dynol neu HPV). Gellir dod o hyd iddo hyd yn oed pan fo'r celloedd yn y sampl yn edrych yn arferol. Os na ganfyddir HPV, yna mae'r risg o ddatblygu canser ceg y groth yn y dyfodol yn isel iawn. Rhwng 60 a 64 oed, bydd HPV yn cael ei ganfod mewn llai nag un o bob 20 o fenywod a brofir.


Eich dewis chi yw mynd am sgrinio, ond y ffordd orau o atal canser ceg y groth yw mynd i gael eich sgrinio bob tro y cewch eich gwahodd. Hyd yn oed os ydych bob amser wedi cael profion arferol, mae'n dal yn bwysig mynychu.

 

Canser ceg y groth mewn menywod 65 oed a throsodd

Mae menywod 65 oed a throsodd yn wynebu risg isel ond gallant ddatblygu canser ceg y groth o hyd. Mae'r rhan fwyaf o fenywod sy'n datblygu canser ceg y groth yn y grŵp oedran hwn:

  • Heb gael eu sgrinio erioed.
  • Heb gael eu sgrinio yn y 15 mlynedd diwethaf.
  • Wedi cael eu sgrinio yn y gorffennol ond wedi colli eu prawf diwethaf.

 

Beth i'w wneud os ydych yn poeni neu'n teimlo bod y prawf yn anghyfforddus


Gallwch siarad â'ch meddyg neu'ch nyrs practis am hyn. Mae pethau y gallant eu gwneud i wneud y prawf yn fwy cyfforddus. Weithiau gall defnyddio eli neu besarïau am
ychydig wythnosau cyn eich prawf, neu ddefnyddio cyfarpar llai helpu.

 

Arwyddion a symptomau canser ceg y groth


Mae'n bwysig iawn eich bod yn siarad â rhywun yn eich meddygfa os ydych yn profi'r canlynol:

  • Gwaedu o'r wain ar ôl rhyw, rhwng mislifoedd neu ar ôl y menopos.
  • Rhedlif o'r wain nad yw'n arferol i chi. 
  • Poenau cyson yn y cefn neu’r bol, neu boen yn ystod rhyw.

 

Mae'r prawf hwn yn newydd, ac mae llawer o fenywod bellach yn cael eu profi fel hyn am y tro cyntaf. Rydym am sicrhau eich bod yn cael y cyfle i gael y prawf hwn.