Neidio i'r prif gynnwy

Eich apwyntiad yn y clinig colposgopi

 

 

Cynnwys

― Pam fod angen colposgopi arnaf? 
Beth mae 'newidiadau i gelloedd' yn golygu?
― Beth fydd yn digwydd yn y clinig?
― Beth sy'n digwydd yn ystod yr archwiliad? 
― Beth am driniaeth?
― A yw'r driniaeth yn gweithio?
― Beth arall sydd angen i mi ei wybod?  
― Beth os byddaf yn cael problemau ar ol y colposgopi?  
― A fydd angen apwyntiad dilynol arnaf?  
― Unrhyw gwestiynau eraill? 
 


Archwiliad yw colposgopi i edrych ar iechyd ceg y groth.

Mae meddyg neu nyrs (a elwir yn golposgopydd) yn edrych ar geg y groth gan ddefnyddio colposgop. Mae hwn yn edrych fel ysbienddrych ar stand. Nid yw’n
mynd y tu fewn i chi.

Llun o fenyw yn cael colposcopi

Os hoffech gael nyrs neu feddyg benywaidd, neu os oes angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol arnoch, ffoniwch y clinig pan fyddwch yn derbyn eich apwyntiad.

 

Pam fod angen colposgopi arnaf?

Mae angen colposgopi arnoch oherwydd:

  • Dangosodd eich prawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) rai newidiadau yng nghelloedd eich serfics;
  • Dangosodd eich prawf sgrinio serfigol fod y feirws papiloma dynol (HPV) yn bresennol, sydd yn gallu achosi newidiadau i’r celloedd; neu
  • Rydych wedi cael profion sgrinio serfigol ond nid oeddem yn gallu rhoi canlyniad i chi.

 

Beth mae 'newidiadau i gelloedd' yn golygu?

Os oes newidiadau i’r celloedd, bydd eich llythyr canlyniadau yn dweud hynny wrthych. Pan welir newidiadau i’r celloedd a gymerwyd yn eich prawf sgrinio, mae siawns y bydd angen triniaeth arnynt.


Nid oes angen trin y rhan fwyaf o newidiadau ‘gradd isel’, ond mae angen i’ch colposgopydd eich gweld er mwyn bod yn siŵr.


Os oes gennych newidiadau ‘gradd uchel’, gall fod angen trin y rhain, i’w hatal rhag troi’n ganser ceg y groth.

Nid oes gan y rhan fwyaf o fenywod sydd yn cael colposgopi ganser ceg y groth.

 

Beth fydd yn digwydd yn y clinig?

Gall perthynas neu ffrind ddod gyda chi. Bydd y colposgopydd yn esbonio pam rydych yn y clinig a’r hyn y byddant yn ei wneud. Gallwch ofyn unrhyw gwestiynau iddynt. Mae’n ddefnyddiol gwybod dyddiad eich mislif diwethaf.


Bydd y colposgopydd yn sicrhau eich bod yn hapus i barhau â’r archwiliad.

Bydd angen i chi ddadwisgo o’r canol i lawr. Gallwch newid yn breifat a byddwch yn cael lliain neu ŵn i orchuddio eich hun.

 

Beth sy'n digwydd yn ystod yr archwiliad?

  • Bydd angen i chi orwedd ar soffa arbennig.
  • Bydd nyrs yn eich helpu ac yn aros gyda chi.
  • Bydd yr archwiliad yn cymryd 10 i 15 munud.
  • Bydd sbecwlwm (yr un offeryn a ddefnyddir i wneud prawf ceg y groth) yn cael ei roi’n ofalus i mewn i’ch gwain.
  • Bydd y colposgopydd yn edrych ar eich serfics.
  • Bydd y colposgopydd yn rhoi hylif ar eich serfics. Weithiau gall hyn deimlo’n oer neu gall bigo.
  • Mewn rhai clinigau gallwch weld eich serfics ar fonitor teledu ar fonitor teledu. Gall y colposgopydd ofyn i dynnu llun eich serfics.
  • Gall y colposgopydd gymryd darn bach o groen o’ch serfics ar gyfer biopsi (archwiliad) os ydynt yn credu bod newidiadau i gelloedd.

 

Beth am driniaeth?

Efallai y byddwch yn cael cynnig triniaeth yn ystod eich ymweliad cyntaf, i gael gwared ar y newidiadau i’r celloedd. Caiff hyn ei esbonio ar y pryd. Mae ffyrdd gwahanol o drin newidiadau i gelloedd.


Yn aml, defnyddir anesthetig lleol. Bydd rhai clinigau ond yn cynnig triniaeth os ydych yn dod â rhywun gyda chi (rhag ofn y byddwch yn teimlo’n anhwylus ar ôl hynny).


Nid oes angen trin pob newid i’r celloedd. Mae newidiadau i gelloedd fel arfer yn cael eu trin os nad ydynt yn dychwelyd i’w ffurf arferol, neu’n fwy na newidiadau gradd isel. Os oes angen triniaeth arnoch, mae’n bwysig iawn eich bod yn mynychu.
 

A yw'r driniaeth yn gweithio?

Mae triniaeth bron bob amser yn llwyddiannus. Gall nifer fach o fenywod fod angen triniaeth eto. Mae’n bwysig iawn mynychu unrhyw brofion dilynol.


Beth arall sydd angen i mi ei wybod?

Os ydych yn cael mislif ar ddiwrnod eich apwyntiad, ffoniwch y clinig. Efallai y byddant yn dweud wrthych am gadw eich apwyntiad, yn arbennig os nad yw eich mislif
yn rheolaidd.


Gellir gwneud colposgopi yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Os oes angen triniaeth arnoch, bydd hyn fel arfer yn cael ei ohirio tan dri mis ar ôl i’ch babi gael ei eni.


Os oes coil (IUD) wedi cael ei osod, mae siawns bach y bydd angen ei dynnu yn ystod eich apwyntiad. Peidiwch â chael rhyw am wythnos o leiaf cyn eich apwyntiad, rhag
ofn, neu defnyddiwch gondomau os ydych yn cael rhyw.

 

Beth os byddaf yn cael problemau ar ol y colposgopi?

Os byddwch yn sylwi ar:

  • Waedu trwm (nid mislif);
  • Rhedlif o’r wain sydd yn anarferol i chi;
  • Poen nad yw’n gwella gyda’ch lladdwyr poen arferol; neu
  • Eich bod yn teimlo’n boeth ac yn oer, neu’n rhynllyd;
Cysylltwch â’r clinig neu dilynwch y cyngor a gawsoch gan y clinig colposgopi.
 

Cyn i chi adael y clinig, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut a phryd y byddwch yn cael eich canlyniadau a pha rifau i gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau.

 

A fydd angen apwyntiad dilynol arnaf?

Bydd eich colposgopydd yn esbonio pa ofal dilynol fydd ei angen arnoch, naill ai yn ystod eich apwyntiad neu mewn llythyr pan fydd eich canlyniadau ar gael.

 

Unrhyw gwestiynau eraill?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sgrinio, cysylltwch â’ch meddyg teulu, nyrs eich practis, staff y clinig cymunedol neu Sgrinio Serfigol Cymru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg heb oedi.

Am fwy o wybodaeth a chymorth, ewch i Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo

 

*Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig gan ‘A smear test could save your life’ ©NHS Health Scotland 2018


Delweddau © Jo’s Cervical Cancer Trust Fersiwn