Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Sylfaenol: Cwestiynau Cyffredin

Mae’r ffurflenni e-atgyfeirio yn cael eu hintegreiddio i gofnod y claf ym mhractis y meddyg teulu ar gyfer Defnyddwyr EMIS. Gweler y canllaw i ddefnyddwyr a chanllaw cychwyn EMIS am ragor o wybodaeth.

Mae integreiddio ar gyfer defnyddwyr Vision yn yr arfaeth. Yn y cyfamser, defnyddiwch yr e-ffurflen ar y ddolen we i wneud atgyfeiriadau.

Bydd y system newydd hon yn arbed amser gan na fydd angen lawrlwytho dogfennau na phostio/e-bostio ffurflenni. 

Actifadu Practis EMIS Theseus.

Canllaw Defnyddiwr EMIS.

Gallwch, ar gyfer defnyddwyr EMIS, gellir cael mynediad at borth Theseus nawr trwy eich cofnod cleifion EMIS.

Bydd defnyddwyr Vision yn atgyfeirio i ddechrau trwy'r we-ddolen atgyfeirio  tra bod actifadu drwy’r porth Theseus yn cael ei weithredu ar y system. I gael mynediad cyflymach i'r we-ddolen gallwch greu llwybr cyflym iddi trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ddolen ddefnyddiol hon Sut i roi llwybr cyflym at wefan ar fwrdd gwaith? - Cymuned Microsoft
 

Bydd pob Gweithiwr Iechyd Proffesiynol sydd wedi'i gofrestru gan y GIG yn gallu atgyfeirio cleifion priodol sy'n bodloni'r meini prawf atgyfeirio at NERS. Gall holl staff y practis ddefnyddio system e-atgyfeirio NERS Theseus os ydych wedi mewngofnodi i EMIS neu drwy we-ddolen Vision.

Ydy - er gwell!

Gan ddefnyddio porth Theseus, bydd atgyfeiriadau yn cael eu danfon ar unwaith, trwy glicio botwm. Yna bydd atgyfeiriadau yn ymddangos ar unwaith yn system rheoli cleifion y tîm NERS lleol perthnasol.
 

Bydd Theseus yn rhoi arweiniad ar ba lwybrau sy'n gysylltiedig â chyflwr sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol.

Bydd Theseus hefyd yn dangos y meini prawf cynhwysiant ac eithrio ar gyfer pob cyflwr.

Bydd - bydd gan bob meddygfa ar draws Cymru fynediad i borth Theseus.   

Mae porth Theseus yn cydymffurfio'n llawn â safonau diogelwch gwybodaeth GIG Cymru a bydd yn cynyddu diogelwch data cofnodion cleifion yn sylweddol o'r system flaenorol o atgyfeiriadau papur

Bydd staff y practis yn cael eu hysbysu drwy borth Theseus os yw'r atgyfeiriad wedi cael ei dderbyn neu ei wrthod, ynghyd â'r rhesymau dros unrhyw wrthod.

Bydd timau NERS lleol yn cynhyrchu adroddiadau o borth Theseus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cleifion.

Gellir cael help trwy fideos defnyddwyr ym mhorth hyfforddi Theseus.

Yn ogystal, gellir adrodd unrhyw broblemau gyda'r system trwy'r ddolen hon.  

Bydd unrhyw faterion neu ddiffygion yn cael eu hymchwilio a'u datrys gobeithio.