Neidio i'r prif gynnwy
Clare Jenkins

Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-Gadeirydd y Bwrdd

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-Gadeirydd y Bwrdd

Penodwyd Clare Jenkins i rôl Is-gadeirydd gan ddechrau ar 1 Mai 2024 am gyfnod o bedair blynedd. Mae Clare yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ôl pum mlynedd yn Llywodraeth Cymru fel Cynghorydd Arbennig ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu Clare yn cefnogi gweinidogion ar draws pob maes busnes y llywodraeth a datblygu polisi a oedd yn ymwneud ag iechyd a gofal.

 

Gweithiodd Clare, yn flaenorol, ar lefel uwch mewn sefydliadau aelodaeth, yn cynrychioli buddiannau staff a defnyddwyr gwasanaethau iechyd yn fwyaf diweddar fel Prif Weithredwr y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned.