Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Gwybodaeth am frechu firws syncytial anadlol (RSV)
Cyn cyflwyno’r brechlyn RSV yn y DU, roedd angen gofal ysbyty ar tua 33,500 o blant dan bump oed bob blwyddyn oherwydd RSV. Roedd RSV hefyd yn achosi 20 i 30 o farwolaethau mewn plant bob blwyddyn.
Mae ymchwil ddiweddar yn dangos y gall y brechlyn RSV leihau’r siawns o gael eich derbyn i’r ysbyty. Mewn pobl rhwng 75 a 79 oed, mae’n lleihau’r risg hon tua 75%.
Pam mae yna raglen frechu RSV?
Cafodd y rhaglen RSV ei chyflwyno i helpu i amddiffyn babanod ac oedolion hŷn rhag salwch difrifol bob hydref a gaeaf. Mae’r rhaglen hefyd yn anelu at leihau’r angen am ofal ysbyty ac ymweliadau â meddygon teulu a achosir gan RSV.
Dechreuodd y GIG y rhaglen frechu rhag RSV yng Nghymru ym mis Medi 2024.
Grwpiau risg
Rhaglen i famau i amddiffyn babanod
Mae RSV yn gallu achosi i fabanod newydd-anedig a phlant bach fynd yn sâl iawn.
Gall achosi heintiau ar yr ysgyfaint o’r enw bronciolitis neu niwmonia. Gall y cyflyrau hyn ei gwneud hi’n anodd i fabanod anadlu a bwydo. Efallai y bydd angen gofal ysbyty arnynt i’w helpu i wella.
Cynigir y brechlyn RSV yn ystod beichiogrwydd. Mae’n helpu i amddiffyn babanod rhag salwch difrifol a achosir gan RSV yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen brechu rhag RSV i famau, ewch i: Rhaglen RSV ar gyfer menywod beichiog a’u babanod.
Rhaglen ar gyfer oedolion hŷn
Gall RSV achosi problemau anadlu difrifol mewn oedolion hŷn. Mae’r rhai sy’n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill yn wynebu mwy o berygl. Gall haint RSV achosi niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) neu hyd yn oed farwolaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen brechu rhag RSV i oedolion hŷn, ewch i: Gwybodaeth am frechu RSV i oedolion hŷn.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025