Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad teg at frechlynnau yng Nghymru

Dylai pawb yng Nghymru gael mynediad teg at frechlynnau, gyda chyfle teg i dderbyn eu brechlyn, fel bod unigolion, teuluoedd a'u cymunedau yn cael eu diogelu rhag afiechydon y gellir eu hatal trwy frechu.

Ar y dudalen

 

Cefndir

Mae tegwch brechlynnau yn golygu teilwra cefnogaeth i grwpiau penodol sy’n cael eu heffeithio gan anghydraddoldeb o ran y nifer sy'n cael brechlyn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod angen i ni ddeall y rhwystrau rhag brechu er mwyn hyrwyddo tegwch brechlynnau, a datblygu atebion fel bod pawb yn gallu cael eu brechu waeth beth fo'u hincwm, addysg, oedran, daearyddiaeth, ethnigrwydd, crefydd neu gredoau.

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gefnogi tegwch brechlynnau?

Mae gan y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu dîm sy'n ymroddedig i ymgysylltu â'r cyhoedd a thegwch brechu. Mae’r tîm hwn yn gweithio gyda sefydliadau a’r cyhoedd i wrando a deall yr heriau sy’n effeithio ar grwpiau penodol, a chefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu ymyriadau wedi’u teilwra i wella mynediad a chyfleoedd. Mae'r tîm yn nodi'r grwpiau sy’n cael eu heffeithio fwyaf trwy ddata goruchwyliaeth (dolen i'r dudalen goruchwyliaeth).

Mwy o wybodaeth am degwch brechlynnau: World Health Organisation - Tegwch brechlynnau

 

Strategaeth a chyfarwyddyd

Mae Strategaeth brechu teg i Gymru Llywodraeth Cymru yn egluro beth mae Cymru yn ei wneud i hyrwyddo tegwch brechlynnau.

Mae Rhaglenni Teilwra Imiwneiddio (Saesneg yn unig) y World Health Organisation yn rhoi arweiniad ar ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â thegwch brechlynnau.

Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru cynnal cyfweliadau i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru: Mawrth 2022: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

 

Ymgysylltu

Mae ymgysylltu yn un o egwyddorion craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r tîm yn gwneud y canlynol:

  • Ymgysylltu â'r cyhoedd ac amrywiaeth o sefydliadau statudol a thrydydd sector i gael cipolwg ymddygiadol ar y rhwystrau, y canfyddiadau a'r profiadau o'r rhaglenni brechlynnau yng Nghymru.
  • Defnyddio adnoddau a dulliau amrywiol i ymgysylltu'n uniongyrchol â grwpiau fel sail i ddylanwadu ar strategaethau cenedlaethol a gwelliannau i wasanaethau.
  • Anelu at gynnwys y cyhoedd yn weithredol wrth ddatblygu adnoddau ac ymyriadau.

Rhagor o wybodaeth am ein hadroddiadau arolygu.

 

Adnoddau hygyrch

Mae’r tîm yn cynhyrchu ystod o adnoddau hygyrch i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys:

  • Iaith Arwyddion Prydain
  • Hawdd ei ddarllen
  • Print bras
  • Sain
  • Ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg
  • Braille (i'w gytuno)

Mae'r rhain ar gael ar bob tudalen rhaglen brechlyn, a gellir eu harchebu trwy Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.

These are available on each vaccine programme page, and can be ordered at Health Information Resources.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael wrth GIG 111 Cymru(tudalen allanol).

Mae'r tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a'r cyhoedd i sicrhau bod adnoddau hygyrch yn diwallu anghenion y bobl sy'n eu defnyddio.

 

Ymarferyddion sy'n gweithio ym maes Tegwch Brechlynnau

Rydym yn cysylltu ag ymarferyddion ac yn dod â hwy at ei gilydd i rannu gwybodaeth, enghreifftiau o arfer da, gwersi a ddysgwyd, cefnogi ymyriadau wedi’u teilwra a chreu cymunedau ymarfer.

Dolenni defnyddiol