Neidio i'r prif gynnwy

Goruchwyliaeth ac epidemioleg clwy'r pennau

Epidemioleg

Mae clwy'r pennau wedi bod yn hysbysadwy yng Nghymru a Lloegr ers mis Hydref 1988, yr un pryd â chyflwyno'r brechlyn MMR.

Yn dilyn cyfnod hir o nifer isel o achosion yn y 1990au, cynyddodd nifer yr achosion o glwy'r pennau yng Nghymru o ddechrau 2003. Y prif grŵp yr effeithiwyd arno oedd pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc a aned rhwng 1980 ac 1991. Ni fyddai llawer o’r grŵp hwn erioed wedi cael cynnig y ddau ddos ​​a argymhellir o frechlyn sy’n cynnwys clwy’r pennau oherwydd dim ond yn 1988 y cyflwynwyd MMR, gydag ymgyrch ddal i fyny gyfyngedig. Yn ogystal, y brechlyn a ddefnyddiwyd yn ystod ymgyrch dal i fyny 1994 mewn ysgolion oedd y brechlyn MR ac nid oedd yn cynnwys elfen clwy'r pennau.

Ym mis Hydref 2005, cyhoeddwyd ymgyrch ddal i fyny genedlaethol ar gyfer MMR er mwyn atal y cynnydd mewn trosglwyddo clwy'r pennau yng Nghymru. Yn ystod yr ymgyrch hon cafodd cyfanswm o 60,820 o fyfyrwyr ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion eu himiwneiddio rhag clwy'r pennau gan ddefnyddio'r brechlyn triphlyg MMR. Gostyngodd nifer yr achosion o glwy'r pennau yng Nghymru yn sydyn yn dilyn 2005.

Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o glwy’r pennau a hysbyswyd ac a gadarnhawyd mewn labordy yng Nghymru yn 2009, 2013 a 2019.

 

Clwy'r pennau yng Nghymru

 

Siart yn dangos y cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth a nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau o glwy’r pennau yng Nghymru rhwng 2000 a 2022

Cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth a nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau o glwy’r pennau yng Nghymru rhwng 2000 a 2022

Blwyddyn Nifer yr achosion Cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth 
2000 4 0.14
2001 7 0.24
2002 81 2.77
2003 455 15.49
2004 650 21.98
2005 3757 126.53
2006 292 9.78
2007 14 0.47
2008 55 1.82
2009 363 11.95
2010 85 2.79
2011 75 2.45
2012 88 2.86
2013 513 16.64
2014 326 10.54
2015 71 2.29
2016 34 1.09
2017 34 1.09
2018 30 0.96
2019 665 21.09
2020 531 16.75
2021 1 0.03
2022 0 0.00

Achosion wedi’u cadarnhau o glwy’r pennau yng Nghymru yn ôl oedran 2014-2022

Blwyddyn <1 1-4 5-9 10-14 15-24 25-34 35-44 45-64 65+ Pob oedran
2014 0 2 4 25 202 62 17 12 2 326
2015 0 2 2 6 48 9 4 0 0 71
2016 0 0 2 6 20 2 2 2 0 34
2017 0 0 1 0 25 7 0 1 0 34
2018 0 0 0 2 21 5 0 2 0 30
2019 2 0 4 8 483 104 33 29 2 665
2020 0 2 9 38 315 108 26 29 4 531
2021 0 0 0 0 0 0 1 0 0 1
2022 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0

Achosion wedi’u cadarnhau o glwy’r pennau 2018-2022 yn ôl chwarter o ran ymddangosiad

Chwarter Nifer yr achosion yn 2018 % cyfanswm 2018 Nifer yr achosion yn 2019 % cyfanswm 2019 Nifer yr achosion yn 2020 % cyfanswm 2020 Nifer yr achosion yn 2021 % cyfanswm 2021 Nifer yr achosion yn 2022 % cyfanswm 2022
Ion-Maw 4 13.3 28 4.2 527 99.2 0 0 0 0
Ebr-Meh 16 53.3 175 26.3 4 0.8 0 0 0 0
Gorff-Med 7 23.3 108 16.2 0 0 1 100 0 0
Hyd-Rhag 3 10 354 53.2 0 0 0 0 0 0

 

Ffynonellau data goruchwyliaeth ar gyfer Cymru

Mae clwy'r pennau yn un o nifer o afiechydon hysbysadwy. Mae gan feddygon yng Nghymru ddyletswydd statudol i hysbysu 'Swyddog Priodol' yr Awdurdod Lleol am achosion a amheuir o glwy'r pennau yn seiliedig ar symptomau clinigol, fel rheol cyn i'r diagnosis gael ei gadarnhau gan brofion labordy. Hysbysiadau o glwy'r pennau yw'r ffynhonnell ddata fwyaf cyflawn ar gyfer goruchwyliaeth.

Gofynnir am samplau poer gan rai cleifion yng Nghymru (a Lloegr) sydd ag amheuaeth o glwy'r pennau, ac fe'u hanfonir i UKHSA yn Colindale am gadarnhad o haint clwy'r pennau.

Dyma'r data a ddefnyddir i gynhyrchu'r graff tueddiadau a'r tablau data cysylltiedig ar y wefan hon.

 

Imiwneiddio rhag clwy'r pennau

Gellir atal clwy'r pennau gyda brechlyn hynod effeithiol a diogel. Mae hyn yn rhan o'r imiwneiddiad rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) gyda dos cyntaf tua 13 mis oed ac ail ddos (atgyfnerthu) tua thair blwydd a hanner. Mae oedolion ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi methu eu brechlyn MMR yn blant hefyd yn cael eu hannog i gael eu himiwneiddio.

Bydd cwrs cyflawn o'r ddau ddos yn gwarchod mwy na 95% o blant rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.

Mae’r nifer sy’n cael y brechlyn MMR (a brechlynnau plentyndod eraill) yng Nghymru wedi’i gofnodi yn adroddiad COVER (Coverage of Vaccination Evaluation Rapidly). Cyhoeddir hwn yn chwarterol ac yn flynyddol. Defnyddiwch y ddolen isod i weld holl adroddiadau COVER o 2003 hyd yma.

Mwy o wybodaeth am y brechlyn MMR.