Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn HPV

Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2023-24

Mae cael y brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) yn bwysig i atal amrywiaeth o ganserau a defaid gwenerol. Mae cael y brechlyn bellach yn eich amddiffyn rhag risgiau yn y dyfodol. 

Ar y dudalen yma

 

Cefndir

Mae HPV yn feirws cyffredin iawn nad oes ganddo unrhyw symptomau fel arfer. Bydd dros 70% o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn cael HPV ar ryw adeg yn eu bywyd. 

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu heintio â HPV yn clirio'r feirws o'u corff, ond gall eraill ddatblygu amrywiaeth o ganserau yn ddiweddarach mewn bywyd a achosir gan y feirws HPV. 

Mae HPV fel arfer yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad rhywiol agos. Nid yw condomau'n darparu amddiffyniad llwyr. Gall rhai pobl hefyd ddatblygu defaid gwenerol, sy'n gallu bod yn anodd eu trin. 
 

Brechlyn HPV

Mae cael y brechiad yn bwysig oherwydd ni allwn ragweld pwy fydd yn datblygu canser neu ddefaid gwenerol. Mae cael y brechlyn bellach yn eich amddiffyn rhag risgiau yn y dyfodol. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn a chlefydau yn GIG 111 Cymru - Brechlyn HPV (safle allanol)

 

Newidiadau i’r rhaglen frechu HPV o 1 Medi 2023 ymlaen

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar raglen frechu'r feirws papiloma dynol (HPV), gan argymell bod un dos o'r brechlyn bellach yn rhoi amddiffyniad gwych.

Bydd y newid hwn (o ddau ddos) yn digwydd yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023.

Mae'r brechlyn HPV yn effeithiol iawn wrth ddiogelu yn erbyn canserau a achosir gan HPV gan gynnwys canser ceg y groth.

 

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn 

Mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig i'r canlynol: 

  • bechgyn a merched 12 i 13 oed (blwyddyn 8 yn yr ysgol) yn yr ysgol, a’r 

  • rhai a allai fod wedi colli eu brechiad ond sy'n parhau'n gymwys hyd at 25 oed (hynny yw, bechgyn a oedd ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol ar neu ar ôl 1 Medi 2019 a merched a ddaeth yn gymwys i gael y brechlyn ar neu ar ôl 1 Medi 2008). 

Mae'r brechlyn ar gael drwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol a chlinigau HIV i ddynion sy'n 45 oed neu'n iau ac sy'n hoyw neu'n ddeurywiol, neu ddynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (HDDRhD).

 

Ynglŷn â'r brechlyn 

Enw brand y brechlyn a ddefnyddir yn y DU yw Gardasil 9

Mae'r brechlyn HPV fel arfer yn cael ei roi fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.  

Mae un dos yn cynnig amddiffyniad gwych i blant cymwys, pobl ifanc ac oedolion o dan 25 oed. Mae angen i ddynion sy'n hoyw, yn ddeurywiol neu ddynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion 25 i 45 oed gael dau ddos o'r brechlyn i gael yr amddiffyniad gorau. Efallai y bydd angen i bobl sy'n imiwnoataliedig (sydd â system imiwnedd wan) neu sydd â HIV gael tri dos – siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch nyrs practis i gael cyngor am hyn os ydych o dan 25 oed. Os ydych yn ddyn cymwys 25 i 45 oed siaradwch â'ch meddyg neu nyrs iechyd rhywiol neu glinig HIV. 

 

Sgil-effeithiau

Y sgil-effeithiau cyffredin yw rhan goch ddolurus, chwyddedig lle rhoddwyd y brechlyn. Weithiau gall lwmp bach, caled di-boen ffurfio ar safle'r pigiad hefyd. Mae'r sgil-effeithiau hyn fel arfer yn diflannu ar ôl cwpl o ddiwrnodau. 

Mae'r sgil-effeithiau llai cyffredin yn cynnwys cur pen/pen tost, cyfog a thwymyn (tymheredd uchel). Mae adweithiau eraill, mwy difrifol, yn brin. 

I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin a phrin, ewch i:   

Os ydych yn pryderu am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (safle allanol).  Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau tybiedig brechiadau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein yn  mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy ffonio llinell gymorth Yellow Card ar 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).   

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech ddysgu rhagor am y brechlyn HPV neu'r clefydau y mae'n amddiffyn yn eu herbyn, edrychwch ar y wybodaeth a restrir isod.  

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

 

 

 

Mwy o wybodaeth

Sgrionio Serfigol Cymru - Am HPV

Jo's Cervical Cancer Trust - Cervical Cancer Charity