Yr Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm
Cysylltwch â ni
Gwasanaethau cyfeirio craidd a chanllaw i ymchwiliadau
- Diagnosis gwahaniaethol a chadarnhad o arunigion cyfeiriedig o Gryptosporidiwm,
- Profion arbenigol ar gyfer canfod Cryptosporidiwm mewn cleifion ag imiwnedd gwan sydd â risg uchel
- Teipio arunigion cyfeiriedig er mwyn cefnogi ymchwiliadau i frigiad o achosion/clwstwr ac ar gyfer gwyliadwriaeth epidemiolegol
- Gwerthuso dulliau labordy newydd ar gyfer Cryptosporidiwm
- Darparu deunyddiau rheoli a hyfforddi cadarnhaol
- Y cyngor ymgynghori ar ddulliau diagnostig a rheoli cryptosporidiosis
- Y cyngor ar ymchwilio, epidemioleg, rheoli ac atal Cryptosporidiwm
- Gweithgareddau Ymchwil a Datblygu mewn perthynas â’n swyddogaethau cyfeirio
| Ymchwilio | Samplau angenrheidiol | Profion a gynhaliwyd | Amser dychwelyd canlyniadau (yn dibynnu ar gymhlethdod a’r llwyth gwaith cyfredol) |
|---|---|---|---|
| Cadarnhad |
Carthion DNA (o leiaf 20µl) – trwy drefniant ymlaen llaw |
Microsgopeg PCR |
2 ddiwrnod gwaith |
| Profion arbenigol ar gleifion ag imiwnedd gwan sydd â risg uchel o Gryptosporidiwm |
Carthion (o leiaf 2 sgŵp) Mathau eraill o sbesimenau fel y nodir |
Microsgopeg (gan gynnwys imiwno-fflworoleuedd) Profion sy’n seiliedig ar PCR |
Bydd canfyddiadau cadarnhaol yn cael eu hadrodd o fewn y diwrnod gwaith nesaf PCR yn cael ei gynnig yn wythnosol |
|
Teipio arunigion Cryptosporidiwm1 (rhywogaeth/genoteip) at ddibenion epidemiolegol ac ar gyfer ymchwilio i glystyrau/brigiadau o achosion Mae nodweddu pellach yn ôl disgresiwn Pennaeth yr Uned neu yn dilyn ymgynghoriad |
Carthion sy’n bositif ar gyfer Cryptosporidiwm (oleiaf 2 sgŵp, yn ddelfrydol heb gadwolyn ond os yw fformalin wedi’i ychwanegu, dylid nodi hyn ar y ffurflen) DNA (o leiaf 20µl) – trwy drefniant ymlaen llaw |
Profion sy’n seiliedig ar PCR | 5-10 diwrnod gwaith (efallai y bydd hyn yn cael ei leihau yn ystod ymchwiliadau i frigiad o achosion) |
| Teipio o ddŵr a sleidiau amgylcheddol sy’n bositif ar gyfer Cryptosporidiwm | Gweler ein gwefan gwasanaethau dŵr ac amgylcheddol am fanylion |
- Yng Nghymru, cynhelir genoteipio Giardia hefyd ond gall yr amser dychwelyd canlyniadau fod yn hirach. ↩︎
Sut i gael gwasanaethau
Defnyddiwch ffurflen yr Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm. (NEED TO UPDATE LINK)
Ar gyfer Giardia, defnyddiwch y ffurflen wedi’i chyflenwi gan yr uned gyfeirio.
Cludo sampl
- Dylid anfon samplau mewn pecynnu sy’n briodol i’r ddeddfwriaeth gyfredol, ynghyd â ffurflen atgyfeirio (sydd ar gael i’w lawrlwytho uchod) sy’n manylu ar y diagnosis tybiedig, manylion y claf neu’r sampl, a hanes (clinigol) perthnasol.
- Anfonwch samplau naill ai drwy’r Post Brenhinol, HAYS DX neu Wasanaethau Negesydd eraill.
- Gellir casglu carthion sy’n bositif ar gyfer Cryptosporidiwm ar gyfer teipio mewn sypiau cyn eu hanfon atom ni os yw hyn yn fwy cyfleus i chi. Storiwch ysgarthion mewn oergell.
- Organebau categori 3: Rhaid nodi’n glir geisiadau am waith ar samplau y gwyddys hefyd eu bod yn cynnwys organebau yng Ngrŵp Perygl 3 y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus.
Taliadau
Mae’r gwasanaeth profi carthion yn rhad ac am ddim i bob labordy Ymddiriedolaeth y GIG, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghymru a Lloegr, y gellir cyflenwi carthion rheoli sy’n bositif ar gyfer Cryptosporidiwm iddynt ar gyfer microsgopeg a biobrofion imiwno ensymau ar gais.
Caiff ffioedd am ymchwiliadau at ddibenion eraill eu hadolygu’n flynyddol a gellir eu cyflenwi ar gais.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn