Neidio i'r cynnwys

Bwydo ar y Fron a Bwydo Babanod

Cefnogi teuluoedd, hyrwyddo profiadau cadarnhaol a chreu cymunedau sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron.

Mae bwydo ar y fron yn darparu manteision iechyd a llesiant pwysig i fabanod a mamau. Mae’n cynnig maeth i fabanod sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion, mae’n cefnogi eu twf a’u datblygiad, ac mae’n helpu i amddiffyn rhag heintiau a salwch. Mae bwydo ar y fron hefyd yn cynnig manteision iechyd hirdymor i famau a gall helpu i gryfhau’r berthynas rhwng y fam a’r baban.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bwydo ar y fron yn unig am chwe mis cyntaf bywyd baban, ac yna parhau i fwydo ar y fron ochr yn ochr â bwydydd cyflenwol priodol am hyd at ddwy flynedd neu ragor

Mae pob taith bwydo ar y fron yn wahanol. Er y gall bwydo ar y fron fod yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil, gall rhai mamau brofi heriau neu gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Gall mynediad at wybodaeth ddibynadwy, canllawiau ymarferol ac anogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae creu amgylchedd cefnogol yn gyfrifoldeb ar bawb. Mae gan deuluoedd, cymunedau, gweithleoedd, busnesau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rôl bwysig wrth helpu mamau i deimlo’n gyfforddus, yn hyderus ac i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth i fwydo ar y fron pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen arnynt.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo, amddiffyn a chefnogi bwydo ar y fron ledled Cymru, ac yn gweithio gyda phartneriaid i annog agweddau cadarnhaol, gwella mynediad at wybodaeth a chymorth, a helpu i greu amgylcheddau lle mae bwydo ar y fron yn cael ei groesawu a’i werthfawrogi.

Drwy fentrau fel Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron, ein nod yw gwneud Cymru yn fan lle mae pob mam yn teimlo ei bod yn cael ei pharchu, ei chefnogi a’i bod yn hyderus yn ei thaith fwydo.

Ydych chi am ddysgu rhagor?

Mae ein fideos byr yn esbonio sut y gall pobl mewn rolau sy’n wynebu’r cyhoedd gefnogi bwydo ar y fron mewn ffordd gefnogol, heb farnu.

Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron yng Nghymru

Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau i gefnogi datblygiad a chyflawniad Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron lleol.

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn