Neidio i'r cynnwys

Huw David

Cyfarwyddwyr Anweithredol, Awdurdod Lleol

Huw David

Cyfarwyddwyr Anweithredol, Awdurdod Lleol

Etholwyd y Cynghorydd Huw David OBE, sy'n cynrychioli cymunedau'r Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr, yn Ddirprwy Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mai 2024. Gwasanaethodd Huw fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o fis Hydref 2016 hyd at fis Mai 2024, gan ei arwain drwy’r cyfnod caledi a’r pandemig Covid-19. Fe'i penodwyd yn Aelod Cabinet gyntaf yn 2008 ac yna cafodd ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd yn 2014. Yn ystod ei gyfnod fel Arweinydd, etholwyd y Cynghorydd David yn unfrydol hefyd yn Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac roedd hefyd yn llefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Huw oedd yn arwain ar Drafnidiaeth a Seilwaith ac ef oedd cadeirydd cyntaf erioed Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cydnabuwyd gwasanaeth cyhoeddus a chyfraniad Huw at lywodraeth leol drwy ddyfarnu OBE iddo yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2022. Mae'r Cynghorydd David yn parhau i fod yn weithgar iawn yn ei bentref genedigol, y mae wedi'i gynrychioli ers 2004; mae’n Gadeirydd Cymdeithas Gymunedol Cefn Cribwr ers 2000; yn aelod o bwyllgor grŵp treftadaeth a chymunedol Y Cefn Gwyrdd; yn aelod sefydlol a chadeirydd Clwb Garddio Cefn Cribwr ers 2007 ac yn aelod o Gyngor Cymuned Cefn Cribwr ers 2002.