Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad newydd yn annog ehangu partneriaethau iechyd rhyngwladol yng Nghymru ac yn arddangos dysgu ar y cyd rhyngwladol i Gymru.

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2025

Mae'r Adroddiad Cynnydd diweddaraf hwn ar y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) sy’n cwmpasu 2022-2024 yn dangos ei bod yn parhau i godi proffil gweithgarwch iechyd rhyngwladol yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at gyflawniadau, dysgu ar y cyd, a manteision partneriaethau rhyngwladol dros y ddwy flynedd flaenorol.

Mae'r IHCC yn cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n gweithio ledled Cymru i hyrwyddo a hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol ar draws GIG Cymru. Mae'n ganolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth a dysgu, cyfnewid gwybodaeth, cydweithio a rhwydweithio ledled y DU, Ewrop a'r byd.  

Ers yr adroddiad diwethaf, mae'r IHCC wedi cynhyrchu pecyn cymorth dwyieithog sy'n cefnogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol ac wedi adnewyddu Strategaeth Iechyd Ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ogystal, mae'r IHCC wedi sefydlu Grŵp Gweithgarwch Iechyd Rhyngwladol GIG, a Fforwm Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynrychiolwyr traws-sector rannu dysgu ac arferion gorau yn ymwneud â gweithgarwch iechyd rhyngwladol. 

Mae'r nifer o enghreifftiau o arferion gorau yn yr adroddiad yn cynnwys stiwardiaeth gwrthficrobaidd ym Malawi wrth roi llawdriniaeth blastig i ddioddefwyr trais rhywiol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo (DRC). 

Dywedodd yr Athro Iain Whittaker, Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe a Llawfeddyg Plastig Ymgynghorol Anrhydeddus:

“Roedd yr ymweliad ag Ysbyty Panzi yn anhygoel. Roedd yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ar lefel bersonol a phroffesiynol. Cefais fy ngwefreiddio gan wydnwch ac ymagwedd gadarnhaol anhygoel y menywod yn Ysbyty Panzi, a'r gwaith sy'n digwydd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo.”   

“Roedd manteisio ar y cyfle i deithio i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo ac i ddysgu technegau llawfeddygol arloesol i dimau lleol yn hynod werthfawr.  Yn ogystal â gallu helpu timau ar lawr gwlad, dysgais lawer iawn gan gydweithwyr yn Panzi. Rydw i wedi gallu dod â’r hyn a ddysgais yn ôl i Gymru a'i ddefnyddio yn fy ymarfer fy hun.” 

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at adroddiadau Sganio'r Gorwel a Dysgu Rhyngwladol chwarterol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gynhyrchwyd gyda ffocws newydd, ehangach ar bryderon iechyd y cyhoedd i rannu dysgu a manteision i Gymru.  Maent yn cyfleu gwybodaeth allweddol i lywio rhaglenni gwaith a gwneud penderfyniadau. Ymhlith y pynciau diweddar mae gordewdra, penderfynyddion masnachol a chydraddoldeb iechyd.   

Mae'r enghreifftiau o weithgarwch Iechyd Rhyngwladol yn dangos sut y gellir goresgyn heriau wrth gyflawni prosiectau, a manteision gweithio rhyngwladol gyda dysgu ar y cyd ac arferion gorau a ddatblygwyd o'r cysylltiadau hyn.  

Gallwch ddysgu rhagor am y gweithgareddau hyn yn yr adroddiad llawn.   

Dywedodd yr Athro Liz Green, Arweinydd Ymgynghorol yr IHCC a Chyfarwyddwr Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

"Mae'r IHCC yn falch iawn i greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngwladol a dysgu ar y cyd yng Nghymru. Mae canlyniadau'r adroddiad hwn yn dangos effaith y gwersi hyn i Gymru ac i’n partneriaid rhyngwladol.  

“Mae’r meysydd yr ydym yn bwriadu eu datblygu yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys cefnogi dull strategol cydgysylltiedig, ehangu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol a datblygu’r strategaeth Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.”

Adroddiad

CRCI Adroddiad Cynnydd 2022-2024