Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol

Ein Cenhadaeth 

Mae Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol GIG Cymru yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer gwaith diogelu yng Nghymru. Mae’n hyrwyddo gwaith ataliol, dysgu a gwelliant parhaus, yn cefnogi amddiffyniad effeithiol trwy ganllawiau cenedlaethol, ac yn galluogi sicrwydd a gweithio mewn partneriaeth. 

Ein Gweledigaeth  

Mae gan bawb yng Nghymru yr hawl i fyw a ffynnu, cael eu gweld, eu clywed a’u parchu, a bod yn ddiogel rhag camdriniaeth, esgeulustod, cam-fanteisio, trais ar sail rhywedd a niwed arall y gellir ei atal. 

Sut rydym yn gweithio

Gan weithio ar y cyd â rhanddeiliaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Diogelu Rhanbarthol, nod y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol yw:

  • Sicrhau bod diogelu yn flaenoriaeth yn agenda atal y GIG.
  • Gwella integreiddio a chydweithio rhwng GIG Cymru ac asiantaethau partner.
  • Gwella a mireinio effeithiolrwydd arferion diogelu.
  • Dylanwadu ar flaenoriaethau diogelu cenedlaethol yn GIG Cymru gan ganolbwyntio ar wella ansawdd.

Mae gweithwyr proffesiynol dynodedig yn darparu arweinyddiaeth system a chyngor diogelu arbenigol annibynnol o safbwynt Cymru gyfan.

Y Rhwydwaith 

Caiff ‘y Rhwydwaith’ ei arwain yn broffesiynol gan Wasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru). Mae’n bont hanfodol rhwng strategaethau a threfniadau ar lefel leol a datblygiadau o ran polisi ar lefel genedlaethol er mwyn cynorthwyo Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru i gyflawni eu cyfrifoldebau i ddiogelu pobl.

Is-grwpiau  

Mae is-grwpiau’r Rhwydwaith yn gymuned ymarfer ac yn hwyluso gweithgarwch gwella diogelu ar y cyd. Mae pum is-grŵp yn ymdrin â’r meysydd canlynol: 

  • Hyfforddiant a Dysgu 
  • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 
  • Y Ddeddf Galluedd Meddyliol/ Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid 
  • Plant sy’n Derb yn Gofal 
  • Meddygon Ar weiniol Cymru ar gyfer Diogelu 

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol drwy e-bostio [email protected]