Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio coluddion - Ynglŷn â phrawf sgrinio’r coluddyn

Am beth mae prawf sgrinio’r coluddyn yn edrych?

Nid yw pecyn profi’r coluddyn yn dweud wrthych a oes gennych ganser y coluddyn.

Mae’r prawf yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ a all fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau eraill.

Bydd y canlyniadau’n dweud wrthych os oes angen profion pellach arnoch.

Paratoi i gwblhau eich prawf sgrinio’r coluddyn

Cyn gwneud eich prawf, darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch.

Gwyliwch y fideo byr hwn a fydd yn dangos i chi sut i gwblhau’r prawf.

Gyda chydsyniad Cancer Research UK, mae Cyngor Caerdydd wedi ail-greu’r fideo hwn yn Arabeg, Bengaleg, Somaleg ac Wrdw. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fideos hyn cysylltwch â: [email protected]

Dilynwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwblhau’r prawf.

Os ydych yn cefnogi rhywun i gwblhau pecyn profi’r coluddyn, dim ond os ydynt wedi cytuno y gallwch wneud hyn dylech gwneud hynny.

Sut i archebu pecyn profi newydd?

Os ydych wedi colli neu ddifrodi eich pecyn profi gallwch archebu un newydd wrth:

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Awst 2026