Ymweliad eich babi â’r Clinig Awdioleg (i fabanod sy’n cael eu hatgyfeirio heb brawf sgrinio’r clyw)
Pam mae angen prawf clyw ar fy mabi?
Mae’r mwyafrif o fabanod yn cael prawf sgrinio clyw yn fuan ar ôl eu geni. Mae rhai babanod yn cael eu hatgyfeirio i gael prawf clyw heb gael prawf sgrinio’r clyw yn gyntaf.
Pryd a ble y bydd y prawf yn cael ei gynnal
Cynhelir y prawf mewn clinig arbennig yn yr ysbyty. Byddwn yn anfon llythyr apwyntiad ynglŷn â’r prawf o fewn pedair wythnos i’ch babi gael ei atgyfeirio.
Sut bydd y prawf yn cael ei gynnal

Awdiolegydd (arbenigwr clyw) fydd yn cynnal y prawf. Cynhelir y prawf pan fydd eich babi’n llonydd neu’n cysgu. Fel arfer, bydd yr apwyntiad yn para tua dwy awr ac mae’n cynnwys amser i dawelu eich babi er mwyn iddo fynd i gysgu. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei gynnal.
Mae tri phad bach gludiog yn cael eu rhoi ar ben eich babi. Bydd clustffonau’n cael eu rhoi yng nghlustiau eich babi; bydd y rhain yn gwneud synau gwahanol. Mae cyfrifiadur yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r synau.


Efallai y bydd teclyn clust bach â blaen meddal yn cael ei roi yn rhan allanol clust eich babi. Bydd hwn yn dangos a oes hylif yng nghlust eich babi.
Os na fydd un o glustiau allanol eich babi wedi’i ffurfio’n gywir, ni fydd pob un o’r profion a ddisgrifir yn cael eu defnyddio.
Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?
Os bydd dwy glust eich babi yn dangos eu bod yn ymateb yn glir, mae’n annhebyg bod gan eich babi nam ar y clyw. Bydd yr awdiolegydd yn rhoi gwybodaeth ichi am sut mae babanod yn ymateb i sain wrth iddynt dyfu. Bydd yn dweud wrthych beth i’w wneud os oes gennych unrhyw bryderon am glyw eich babi.
Efallai na fydd y prawf yn dangos ymateb clir gan un o glustiau eich babi, neu gan y ddwy glust. Bydd yr awdiolegydd yn egluro beth mae hynny’n ei olygu. Mae gwahanol fathau a lefelau o golli clyw. Efallai y bydd angen mwy o brofion cyn y byddwch yn gwybod am glyw eich babi. Bydd yr awdiolegydd yn cynllunio gyda chi i ganfod yr adeg orau i’ch babi gael rhagor o brofion.
Profion pellach sy’n cael eu defnyddio
Efallai y bydd cynhyrchydd sain bach yn cael ei roi y tu ôl i glust eich babi. Mae’r prawf hwn yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau mewnol eich babi yn ymateb i’r sain.
Efallai y bydd teclyn clust bach â blaen meddal yn cael ei roi yn rhan allanol clust eich babi. Bydd hwn yn gwneud sŵn clicio. Bydd cyfrifiadur neu dyfais-llaw yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.
Ar ôl y prawf, bydd yr awdiolegydd yn ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych. Os bydd gan eich babi nam ar y clyw, byddwch yn cael cynnig cymorth a rhoddir mwy o wybodaeth ichi.

Darganfod mwy
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech siarad â rhywun am glyw eich babi, gallwch gysylltu â:
Gogledd Cymru: 03000 848710
De-orllewin Cymru: 01792 343364
De-ddwyrain Cymru: 02921 843568
Gallwch hefyd gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS). Mae gan y gymdeithas linell gymorth ar gyfer rhieni a theuluoedd a hoffai wybodaeth am brofion clyw ac unrhyw fath o golled clyw yn ystod plentyndod.
E-bost: [email protected]
Gwefan: www.ndcs.org.uk
Dehonglydd Nawr (Saesneg yn unig)
Llinell gymorth rhadffôn: 0808 800 8880 (v/t)
Dulliau eraill o gysylltu hefyd ar gael, gweler – https://www.ndcs.org.uk/our-services/services-for-families/helpline/