Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 2 Cyflwyniad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – y sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol i Gymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach’.
Rydym yn helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.
Mae gennym Strategaeth Hirdymor (2023-35) sy’n egluro ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035. Rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach a lle mae gan bawb fynediad teg a chyfartal i’r pethau sy’n arwain at lefelau da o iechyd a llesiant.
Mae’r Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso yn strategaeth alluogi sy’n ein helpu i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor.
Er mwyn gweithredu’r strategaeth, byddwn:
- Yn nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso a fydd yn dylanwadu ar yr agenda ymchwil ar gyfer iechyd poblogaethau
- Yn arwain partneriaid ac yn gweithio gyda nhw ar bortffolio cadarn o waith ymchwil a gwerthuso er mwyn cynhyrchu a defnyddio tystiolaeth i wella iechyd poblogaethau
- Yn llunio gwaith ymchwil a gwerthuso er mwyn deall pa ddulliau gweithredu sy’n effeithiol a sut y gellir eu rhoi ar waith er mwyn gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Mae Cymru Iachach yn amlygu’r ffaith bod dull gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n defnyddio ymchwil, gwerthuso a gwybodaeth i ddeall beth sy’n gweithio, ac sy’n golygu gweithio gydag eraill, yn egwyddor sylfaenol ar gyfer sbarduno newid a thrawsnewid ar draws y system ar gyfer iechyd poblogaethau.
Fel y sefydliad o fewn y GIG sy’n darparu arweiniad ynghylch iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae dyletswydd arnom i hybu agenda ymchwil a gwerthuso sy’n cynhyrchu tystiolaeth o safon ac sy’n cyfrannu i’n gwybodaeth am atal afiechydon, ymestyn oes pobl a hybu iechyd a llesiant i bawb.
Yn y strategaeth hon, caiff ymchwil a gwerthuso eu diffinio fel gweithgareddau ar wahân:
Nod ymchwil yw llenwi bylchau yn y sylfaen dystiolaeth, tra mae gwerthuso yn canolbwyntio ar ddeall effaith ymyriadau, rhaglenni neu bolisïau penodol ar ganlyniadau iechyd. Er bod ymchwil a gwerthuso ill dau yn bwysig, mae eu diben yn wahanol yng nghyd-destun gwella iechyd poblogaethau
Ymchwil
Gall ymchwil fod ar sawl ffurf wahanol, ond y nodwedd hollbwysig yw’r dull systematig a thrylwyr o ateb cwestiwn neu ddamcaniaeth a ddiffiniwyd.
Gall olygu defnyddio amryw ddulliau, megis ymchwil ansoddol neu feintiol, a defnyddio astudiaethau sydd wedi’u llunio yn wahanol, er enghraifft astudiaethau arsylwadol neu arbrofol.
Nod ymchwil yw creu gwybodaeth newydd a all fod o werth i bobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, a chyfrannu i’r sylfaen dystiolaeth sy’n llywio ymarfer a pholisi ym maes iechyd cyhoeddus.
Ymchwil gynradd
Mae ymchwil gynradd yn golygu casglu data newydd o’r dechrau, yn aml trwy arbrofion neu arolygon, er mwyn mynd i’r afael â chwestiynau ymchwil penodol.
Ymchwil eilaidd
Ar y llaw arall, mae ymchwil eilaidd yn golygu dadansoddi a syntheseiddio data sy’n bodoli’n barod a chanfyddiadau ymchwil o amryw ffynonellau megis arolygon iechyd, cofnodion gweinyddol neu ddeunydd a gyhoeddwyd.
Gellir gwneud hynny trwy ddulliau megis adolygiadau systematig neu fetaddadansoddiadau er mwyn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o bwnc penodol.
Gwerthuso
Gellir defnyddio gwaith gwerthuso i benderfynu a yw ymyriad, polisi neu raglen wedi cyflawni’r nodau a fwriadwyd ac i nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Gellir ei ddefnyddio hefyd i helpu i nodi trwy ba fecanweithiau y mae ymyriad yn gweithio, ac i asesu’r graddau y gellir ehangu neu ddyblygu’r ymyriad mewn lleoliadau eraill.
Pam y mae ymchwil a gwerthuso’n bwysig?
Mae ymchwil a gwerthuso’n chwarae rhan hanfodol o safbwynt dylanwadu ar y sylfaen dystiolaeth sy’n cefnogi polisi ac ymarfer ym maes iechyd cyhoeddus. Maent yn ein helpu i ddeall yn well yr achosion sydd wrth wraidd afiechyd, ac maent yn gymorth i ddatblygu ymyriadau, triniaethau a gwasanaethau ym maes iechyd cyhoeddus, megis brechlynnau newydd a pholisïau iechyd cyhoeddus.
Mae ymchwil yn ein helpu i ateb cwestiynau a llenwi bylchau yn ein gwybodaeth, er enghraifft:
- ‘Beth yw’r prif bethau sy’n achosi afiechyd?’,
- ‘A yw rhai ffactorau’n fwy pwysig i rai grwpiau neu ar adegau penodol yn ystod ein bywyd?’.
Gall ymchwil ein helpu i ddatblygu offer newydd i wella iechyd a’n helpu i roi prawf arnynt.
Mae gwerthuso yn ein helpu:
- i asesu effaith ein gweithredoedd ni a gweithredoedd pobl eraill ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru,
- a deall yn well beth sy’n gweithio i wella iechyd, sut y mae hynny’n wahanol ar draws grwpiau, a’r rhesymau dros unrhyw wahaniaeth.
- Mae angen i ni benderfynu “beth sy’n gweithio, i bwy, a pham”.
Fel y corff sy’n arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn gyfrifol am gynnal gwerthusiadau trylwyr sy’n cynnig asesiad strwythuredig o ymyriadau, rhaglenni neu bolisïau, er mwyn deall eu heffaith ar iechyd yng Nghymru.
O ystyried y ffactorau cymhleth sy’n effeithio ar ein hiechyd, a’r angen i weithio gyda llawer o wahanol sefydliadau i wella iechyd, mae gweithgareddau ymchwil a gwerthuso’n hollbwysig o safbwynt dod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflawni newid effeithiol.
Mae’r cynllun hwn yn dangos bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i waith ymchwil a gwerthuso er mwyn dod o hyd i ffyrdd o wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a hybu llesiant yng Nghymru.
Yn y strategaeth hon, rydym yn egluro ein cynlluniau ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt, a sut y byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ledled Cymru a ledled y byd i lunio gwaith ymchwil a gwerthuso trylwyr ac annog eraill i wneud yr un fath.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026