Strategaeth ddigidol a data - Adran 6 – Adeiladu i wneud gwahaniaeth
Gallwn wneud gwahaniaeth y mae modd ei fesur i iechyd a llesiant drwy ddata a gwaith dadansoddi pwerus y gellir gweithredu ar eu sail, a thrwy adnoddau a systemau digidol arloesol ac effeithlon.
Creu gyda’n gilydd
Mae angen i ni greu’r hyn y mae ar bobl ei angen.
I wireddu ein hegwyddor sy’n ymwneud â rhoi pobl yn gyntaf, bydd y defnyddiwr yn ganolog i’r hyn a wnawn. Byddwn hefyd yn croesawu dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, er mwyn creu atebion a gwasanaethau sy’n cael eu dylunio gyda’r union bobl a fydd yn eu defnyddio. Drwy ymgorffori ymchwil i ddefnyddwyr ar ddechrau pob prosiect, bydd y ffocws yn symud oddi wrthym ni fel sefydliad i’r holl ddefnyddwyr, ble bynnag y maent. Mae ein timau’n ddefnyddwyr hefyd, a bydd angen cyfle arnyn nhw i helpu i greu’r gwasanaethau y maent yn eu rhedeg.
Pan fyddwn yn datblygu gwasanaeth sy’n bodoli yn barod, gallwn fesur ei effeithlonrwydd drwy asesu’r gwerth y mae’n ei roi i’w ddefnyddwyr. Bydd ein tîm dylunio newydd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn gallu helpu gwasanaethau i alinio â’r safonau gwasanaeth wrth iddynt ddechrau ar gylch newydd o wella’n barhaus ar sail angen defnyddwyr.
Byddwn yn dal i gynyddu ein grwpiau defnyddwyr mewn gwahanol feysydd er mwyn i ni allu cael cyfuniad da o bobl, heb roi gormod o bwysau ar grŵp bach o bobl. Byddwn yn datblygu ein gallu i ymchwilio i ddefnyddwyr fel y gallwn, dros gyfnod, ddarganfod mwy o bethau drosom ein hunain heb fod angen help gan bartneriaid allanol.
Sgrinio Llygaid Diabetig
Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn trawsnewid ei wasanaeth digidol ynghyd â’r bobl sy’n ei ddefnyddio.
Yn dilyn prosiect Darganfod llwyddiannus, daethom ar draws rhai problemau clir:
-
- Nid yw llawer o bobl yn mynychu apwyntiadau oherwydd eu bod yn methu eu newid i ddyddiad sy’n addas iddynt.
-
- Mae bron yr holl waith atgyfeirio, trefnu apwyntiadau a llunio adroddiadau’n cael ei gyflawni gan bobl, sy’n cymryd llawer o amser.
-
- Erbyn hyn, rydym wedi cyflawni prosiect Alffa lle gwnaethom ddatblygu:
-
- Prototeip ar gyfer ap y gallai pobl ei ddefnyddio i gael eu hapwyntiadau a’u rheoli.
-
- Opsiynau awtomeiddio ar gyfer atgyfeiriadau i’r rhaglen sgrinio
-
- Opsiynau i’r dyfodol ar gyfer gwella
Bod yn yr un man â phobl
Yn ddiweddar, gwnaethom gwblhau prosiect darganfod ynghylch ein hystâd ar y we. Dangosodd fod gennym gyfres wasgaredig iawn o wefannau nad ydynt wedi’u cysylltu yn wirioneddol â’i gilydd o ran eu dyluniad na’u cyfeiriad. Dywedodd pobl nad oedd yn hawdd deall pa wefannau oedd yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru na beth oedd eu diben.
Byddwn yn moderneiddio ein presenoldeb ar y we fesul cam, yn symleiddio ein hystâd ac yn sicrhau ei bod yn hawdd gweld ein bod yn rhan o’r GIG, sy’n frand y gall pobl ei adnabod ac ymddiried ynddo. Byddwn yn ysgrifennu ar gyfer y we ac yn cyhoeddi deunydd gan ystyried y safonau hygyrchedd. Mae hynny’n golygu y gallwn ddefnyddio ffeiliau pdf os bydd rhywbeth yn cael ei argraffu, ond dylai’r fersiwn swyddogol fod yn fersiwn HTML5 fel bod modd iddo gael ei gyrchu ar unrhyw sgrin a gan ddarllenyddion sgrin.
Byddwn yn adeiladu ein presenoldeb ar y we o amgylch y siwrneiau y mae angen i ddefnyddwyr eu dilyn yn hytrach nag o amgylch y rhan honno o’r sefydliad sy’n creu’r cynnwys. Byddwn yn monitro effaith ein cyngor a’n cyhoeddiadau ac yn defnyddio’r hyn a ddysgwn i sicrhau bod ein hysgrifennu yn y dyfodol yn fwy defnyddiol fyth.
Byddwn yn sicrhau ein bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf ym maes y cyfryngau cymdeithasol, a’n bod yn deall i ble y mae pobl yn hoffi mynd i gael eu gwybodaeth a’u hadloniant. Byddwn yn monitro ffynonellau camwybodaeth ac yn gweithio gyda phobl a darparwyr i fod yn fan amlwg lle gellir cael cyngor gonest a chymorth.
Datblygu Ystwyth
Fel rheol, bydd datblygu ystwyth yn mynd drwy sawl cam:
Darganfod – cael gwybod gan ddefnyddwyr beth y mae arnynt ei angen gan wasanaeth. Gweld beth sy’n anodd ei wneud a beth y gellid ei wella neu’i greu er mwyn diwallu’r anghenion mwyaf. Beth yw’r gwasanaeth lleiaf a all ddiwallu anghenion defnyddwyr?
Alffa – rhoi prawf ar y darnau anoddaf i’w creu. Bydd y cam hwn yn cynnwys methiannau’n aml, ond bydd dysgu o’r methiannau hynny’n dangos y ffordd orau o greu rhywbeth.
Beta – cymryd yr hyn a ddysgwyd yn ystod y prosiect alffa er mwyn creu’r gwasanaeth gweithredol lleiaf, a elwir yn gynnyrch sylfaenol hyfyw. Rhoi prawf arno gyda llawer o bobl a sicrhau ei fod yn gweithio’n dda.
Cyflwyno parhaus – hyd yn oed tra bydd y cynnyrch sylfaenol hyfyw’n cael ei roi ar waith, bydd profion yn cael eu cynnal yn barod er mwyn ychwanegu neu wella pethau. Gyda gwasanaeth byw, gallwn barhau i ddatblygu nes y byddwn yn diwallu holl anghenion ein defnyddwyr.
Meddwl yn ystwyth
Er mwyn gwneud newidiadau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr hyn y mae ar bobl ei angen, byddwn yn datblygu ein gallu ym maes dulliau cyflawni modern megis y dull Ystwyth, y dull ‘Lean Six Sigma’ a’r dull Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Gwnaeth cylchoedd cyflym o ddatblygu a chyflawni pethau a oedd yn “ddigon da”, a allai gael eu gwella ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith, weithio’n dda i ni yn ystod COVID. Cafodd y dull hwn o weithredu ei greu ar gyfer datblygu meddalwedd, ond gellir ei ddefnyddio’n ehangach hefyd. Mae’n ymwneud â chyflwyno cynnyrch gweithredol ar lawr gwlad yn hytrach nag aros am berffeithrwydd.
Byddwn yn hybu ac yn hyrwyddo dulliau Ystwyth o weithio ym mhob rhan o’r sefydliad, gan ddefnyddio ein teuluoedd proffesiynol a chysylltu â’r grŵp rheoli portffolios a’r grŵp gwella er mwyn rhannu a datblygu sgiliau. Mae gwaith cyflawni pragmatig yn ddefnyddiol hefyd wrth ddadansoddi data, lle mae dod o hyd i’r data mwyaf defnyddiol a’i rannu pan fydd fwyaf defnyddiol yn gallu bod yn fwy effeithiol nag aros nes bod y data’n berffaith ond yn llai defnyddiol.
Byddwn yn adolygu canlyniadau’r tri phrosiect darganfod, y ddau brosiect alffa ac adolygiad a gyflawnwyd gennym ddechrau 2023 ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn gweithio i gynorthwyo’r sefydliad i flaenoriaethu beth fydd nesaf. Yn dibynnu ar yr hyn a benderfynir, byddwn yn gweithio ar unrhyw ddarganfyddiadau, prosiectau alffa, prosiectau beta a threfniadau cyflwyno eraill ac yn eu hybu.
Drwy fod yn agored ac yn gydweithredol tra byddwn yn ailadrodd gweithgareddau, ein gobaith yw annog pob math o ddefnyddwyr i ymgysylltu, a chael adborth gonest gan bobl nad ydynt wedi gweithio fel hyn o’r blaen. Yna, gallwn wneud newidiadau a datrys unrhyw broblemau’n gynnar. Rydym yn credu mai canlyniad hynny fydd profiad gwell i’r defnyddiwr a gwybodaeth well i ni ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
Bydd ein timau datblygu’n canolbwyntio ar y gwaith sydd wedi’i flaenoriaethu gyda rheolwyr gwasanaeth, perchnogion gwasanaeth a’r tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae hynny’n golygu y bydd ein gwaith sydd wedi ôl-gronni/ein rhaglen waith bob amser wedi’i alinio/ei halinio â blaenoriaethau pennaf ein defnyddwyr. Byddwn yn parhau i roi prawf ar newidiadau newydd, a byddwn yn cofnodi ein gwaith yn glir fel bod pobl eraill yn gallu helpu os bydd angen mwy o adnoddau arnom.
Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau yw ein Lego ni
Waeth beth fo siâp bricsen Lego, gall gysylltu â brics Lego eraill oherwydd bod gan bob un ohonynt ddull cysylltu safonol. Rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu cysylltu â gwasanaethau eraill fel bod modd i ddefnyddwyr fwynhau siwrnai hwylus. Mae yna ddigon o wahanol ffyrdd o gysylltu cydrannau â chod cyfrifiadurol, ond gall fod yn debyg i lud, sy’n golygu ei bod yn anodd gwahanu’r darnau pan fydd un yn mynd yn hen neu’n torri.
Cydrannau bach yw Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau, y gallwn eu defnyddio i gysylltu systemau â’i gilydd mewn modd sy’n debycach i Lego. Maent yn diffinio sut y mae cydrannau’n siarad â’i gilydd ac yn pennu’r telerau sy’n caniatáu i ddata symud rhwng systemau. Mae hynny’n golygu, pan fyddwn am dynnu un gydran allan a gosod un arall yn ei lle, y dylem fod yn gallu gwneud hynny’n gyflymach ac yn fwy effeithiol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod gennym Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau cyhoeddus glân pan fyddwn yn creu systemau ac yn ceisio sicrhau, pan fyddwn yn prynu gwasanaethau, bod ganddynt Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau y gallwn eu defnyddio fel na fyddwn yn cael ein rhwystro gan lud.
Os yn briodol, bydd ein Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau yn dilyn y safon Adnoddau Rhyngweithredu Cyflym Gofal Iechyd (FHIR), sef safon fyd-eang ar gyfer cyfnewid data gofal iechyd. Bydd y safonau hynny’n allweddol ar gyfer pethau megis cofnodion iechyd electronig, a byddant yn sicrhau bod gan y bobl iawn fynediad i’r wybodaeth iawn ar yr adeg iawn, ac yn sicrhau hefyd bod y wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel.
Manteisio ar gyfleoedd newydd
Mae yna gymaint o gyfleoedd newydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgysylltu â nhw. Byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddeall sut y gallai gwasanaethau gwell edrych, ac i gysylltu mwy o’n data er mwyn gwella profiadau pobl.
Byddwn yn dod â’n grŵp genomeg pathogenau i safle newydd ochr yn ochr â’r rhaglen genomeg ddynol. Mae yna gyfleoedd i astudio clefydau er mwyn chwilio am arwyddion a allai ddangos a fyddai rhai pobl yn fwy tueddol i gael clefyd neu a fyddai angen triniaeth wahanol i’r arfer ar rai pobl.
Mae angen i ni ddeall y cyfleoedd sydd ar gael i gadw pobl yn iach gartref. Mae technoleg y gellir ei gwisgo ar gael, sy’n golygu ei bod yn bosibl monitro rhywun o bell a chael ward hybrid neu ddigidol wirioneddol. Er enghraifft, gallai pobl sy’n wynebu risg uwch ond sydd fel arall yn ffit fod yn byw gartref, ond yn cael eu monitro gan ward ac yn cael eu derbyn i’r ysbyty pe bai’r darlleniadau yn dangos bod yna berygl.
Wrth i dechnoleg symudol fynd yn fwy effeithlon, gallai fod yna gyfleoedd megis defnyddio ffonau symudol i dynnu lluniau sgrinio llygaid o’n cartrefi ein hunain. Gallai presgripsiynau electronig gynnig cyfleoedd i osod negeseuon atgoffa os yw’n anodd cofio pa foddion i’w gymryd a phryd. Gallai’r math hwnnw o neges atgoffa gael ei integreiddio yn Ap y GIG, a gallai’r presgripsiwn fod yn yr ap hefyd. Mae gwybodaeth am iechyd a llesiant, y gellir ei rhannu ar gymhwysiad dibynadwy, yn fwy tebygol o fod yn wybodaeth y gellir ymddiried ynddi, ac yn llai tebygol o fod yn sgam, nag unrhyw wybodaeth y deuir o hyd iddi ar y rhyngrwyd.
Deallusrwydd artiffisial
Mae’n debygol y bydd deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwyfwy pwysig i iechyd cyhoeddus. Gallai sbarduno newidiadau go iawn ym maes diagnosis a thriniaeth, ym maes hybu iechyd ac atal afiechyd ac ym maes effeithlonrwydd gweithredol. Gallai helpu i ofalu am bobl yn eu cartrefi, a helpu pobl i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, sy’n eu cadw allan o’r ysbyty. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud yn fawr o’r cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig.
Ond mae yna risgiau hefyd. Sut bynnag y caiff deallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio – boed er mwyn helpu i adnabod risgiau, neu drwy ddatblygu cynorthwywyr personol i helpu gyda gofal iechyd, neu er mwyn cynorthwyo diagnosis – rhaid ei fod yn ddiogel a rhaid ei fod yn deg. Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y GIG, yn Llywodraeth Cymru ac yn ehangach i sicrhau bod unrhyw ddeallusrwydd artiffisial a gaiff ei fabwysiadu’n cyrraedd safonau a gytunwyd ar gyfer tegwch a diogelwch, a’i fod o fudd i bobl Cymru.
Mae technoleg deallusrwydd artiffisial ymhell o fod yn gallu cymryd lle pobl. O safbwynt cyfreithiol, moesegol a thechnegol, mae angen i dechnoleg deallusrwydd artiffisial gael ei goruchwylio o hyd gan bobl. Er hynny, mae ganddi rôl bwysig i’w chwarae ym maes iechyd a gofal, ochr yn ochr â sgiliau ac arbenigedd pobl. Yn ddiweddar, gwnaethom gais i ddatblygu Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial er mwyn hybu gweithgarwch yn y maes hwn yng Nghymru.
Mesur dylanwad
Nid yw darparu’r wybodaeth iawn ar yr adeg iawn yn ddigon. Mae angen i ni ei hesbonio’n glir, a helpu i gymryd camau gweithredu ar sail y ddealltwriaeth a gawn o ddadansoddi gwybodaeth. Dylai’r stori y mae gwybodaeth glir yn ei hadrodd ein harwain i gymryd y camau nesaf cywir.
Drwy ddata a gwaith dadansoddi ardderchog, byddwn yn llywio penderfyniadau prydlon, yn dylanwadu ar flaenoriaethau’r llywodraeth, ac yn galluogi pobl Cymru i gymryd camau gweithredu cadarnhaol ynghylch eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
Drwy adeiladu ar ein sylfeini cadarn, byddwn yn gallu manteisio ar dechnoleg arloesol a gaiff ei gyrru gan ddata er mwyn gwella iechyd cyhoeddus, er enghraifft technoleg y gellir ei gwisgo, technoleg monitro o bell, technoleg sgrinio symudol a thechnoleg a all gynorthwyo newidiadau iach o ran ymddygiad.
I fesur y dylanwad hwn byddwn yn tracio ein heffaith ac yn archwilio sut y mae ein data’n cael ei ddefnyddio gennym ni a gan eraill i wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant pobl. Byddwn hefyd yn mesur effeithlonrwydd ein data a’n systemau drwy asesu’r gwerth y maent yn ei gynnig i’w defnyddwyr.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29ain Mehefin 2026