Neidio i'r cynnwys

Strategaeth ddigidol a data - Adran 5 – Alinio

Nid ydym yn cyflawni mewn gwagle.

Mae angen i ni ddefnyddio safonau cenedlaethol i lywodraethu ein cynnyrch hefyd. Pan fyddwn yn cyhoeddi data ac ystadegau, dylent fodloni’r cod ymarfer ar gyfer ystadegau.

Alinio â’r strategaeth hirdymor

Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r strategaeth ehangach ar gyfer ein sefydliad cyfan, ac mae angen i’r hyn a wnawn gyda thechnoleg ddigidol a data alinio â’r hyn a wnawn mewn meysydd eraill os ydym am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae defnyddio technoleg ddigidol a data’n well yn flaenoriaeth yn y strategaeth hirdymor, ochr yn ochr â diogelu iechyd, gwella gwasanaethau iechyd, sgrinio, sicrhau tystiolaeth well, a mwy. Mae yna gerrig milltir ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, sy’n dangos rhywfaint o’r hyn y byddwn yn ei wneud.

Ein strategaeth hirdymor yw ein dolen gyswllt â darnau o ddeddfwriaeth a strategaethau cenedlaethol a rhyngwladol allweddol eraill megis Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (safle allanol) a nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (safle allanol, Saesneg yn unig).

Alinio â safonau

Bydd defnyddio safonau ac arweiniad cenedlaethol a rhyngwladol cydnabyddedig yn gwella’r ffordd y mae ein gwasanaethau’n gweithio ac yn gallu cysylltu â gwasanaethau a sefydliadau eraill. Mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod ein systemau’n gallu siarad â’i gilydd heb beryglu diogelwch, a bod y gallu i ryngweithredu’n dod o ddefnyddio safonau cyffredin, agored.

Bydd alinio â safonau rhyngwladol megis y rhai a gaiff eu hargymell gan Sefydliad Iechyd y Byd, a’u hintegreiddio drwy Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd, yn ein galluogi i feincnodi ar sail gwledydd eraill a chydweithredu â nhw er mwyn gwella iechyd a llesiant o gwmpas y byd.

Mae alinio â safonau yng Nghymru yn sicrhau ffocws ar yr hyn sy’n benodol i bobl yng Nghymru, megis ein hanghenion o ran y Gymraeg.

Mae defnyddio geiriadur data GIG Cymru a HL7/FHIR ar gyfer ein data’n golygu y gallwn gyfnewid data â’n teulu yn GIG Cymru. At hynny, drwy ddefnyddio’r un safonau ar draws Cymru, gallwn feithrin hyder yn ansawdd ein systemau a bydd yn haws integreiddio â phrosiectau eraill. Bydd ffyrdd cyffredin o weithio’n ein helpu i gydweithio’n well â’n gilydd yn y dyfodol.

Mae angen i ni ddefnyddio safonau cenedlaethol i lywodraethu ein cynnyrch hefyd. Pan fyddwn yn cyhoeddi data ac ystadegau, dylent fodloni’r cod ymarfer ar gyfer ystadegau (safle allanol, Saesneg yn unig). Fel hynny, bydd pobl sy’n edrych ar ein data yn gallu bod yn dawel eu meddwl bod yr hyn y maent yn ei ddarllen wedi’i gynhyrchu i safon uchel, y gellir ymddiried ynddo a’i fod yn ddefnyddiol.

Mae defnyddio safonau agored yn ymwneud â mwy na’r data a’r systemau yn unig. Mae hefyd yn golygu cael dulliau clir y gellir eu hailadrodd ar gyfer ein gwaith, a chadw dogfennau clir i ddangos beth sydd gennym ac i lywodraethu ein gwasanaethau’n dda ac yn deg. Mae safonau megis ISO27001 ar gyfer diogelu data’n cynnwys sgiliau a gwybodaeth benodol y mae angen i’n timau eu cael, a rhwystrau ffisegol neu fylchau aer i sicrhau diogelwch.

Gwasanaeth

Byddwn yn dilyn y 12 Safon Gwasanaeth a amlinellir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru:

1.    Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol
2.    Dylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg
3.    Deall defnyddwyr a’u hanghenion
4.    Darparu profiad cydgysylltiedig
5.    Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth
6.    Bod â pherchennog gwasanaeth sydd wedi’i rymuso
7.    Sefydlu tîm amlddisgyblaethol
8.    Ailadrodd a gwella’n aml
9.    Gweithio’n agored
10.    Defnyddio technoleg y gellir addasu ei graddfa
11.    Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch ar bob cam
12.    Defnyddio data i wneud penderfyniadau

Alinio â rhaglenni

Rydym yn gwybod y bydd alinio ein dull gweithredu â thimau ehangach y GIG yn golygu bod ein gwasanaethau’n fwy effeithlon. Er enghraifft, mae ein cydweithwyr yn y GIG newydd lansio Ap GIG Cymru. Os gallwn ddatblygu gwasanaethau sy’n gallu defnyddio’r platfform hwnnw, ni fydd yn rhaid i ni ddylunio a chreu ap dyfeisiau symudol ar gyfer ein gwasanaethau ni ein hunain.

Mae cymaint o ymdrech a gweithgarwch yn mynd i wella gwasanaethau GIG Cymru ar hyn o bryd, ac un rhan yn unig o ddarlun ehangach o lawer yw Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, p’un a ydym yn ystyried ysgrifennu adroddiad newydd, creu dangosfwrdd neu drawsnewid gwasanaeth digidol, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth arall sydd ar y gorwel. Mae’n golygu na ddylem ddechrau rhywbeth sydd wedi’i ddechrau’n barod yn rhywle arall – ond y byddwn yn hytrach yn ychwanegu ein hymdrechion ni at y gwaith sy’n digwydd yn barod. Drwy ddod ag anghenion ein defnyddwyr ni a rhannu ein sgiliau ni, y gobaith yw y byddwn yn helpu i gyflawni rhywbeth sy’n gweithio i bawb.

Mae prosiect ar waith ar draws Cymru ar hyn o bryd i gysylltu ein trefniadau rhagnodi electronig – mae angen i ni sicrhau ein bod wedi ein halinio â’r prosiect er mwyn i ni allu parhau â’n gwaith ar iechyd cyhoeddus mewn meysydd megis monitro ymwrthedd gwrthficrobaidd. Os gwnawn hynny’n dda, bydd pobl sy’n rhagnodi yn gallu gweld a ddylent fod yn rhagnodi gwrthfiotigau gwahanol er mwyn cael yr effaith gywir.

Mae angen i ni fod wedi ein halinio’n wirioneddol agos â’r rhaglen Systemau Gwybodaeth Labordai. Y rheswm am hynny yw mai Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhedeg y labordai ar gyfer ysbytai yng Nghymru, ac mae angen i ni sicrhau bod pob un o beiriannau ein labordai’n gallu siarad â’r systemau newydd fel ein bod yn gallu cael y canlyniadau cywir yn ôl i bobl cyn gynted ag sy’n bosibl.

Y rhaglen fwyaf ym maes technoleg ddigidol a data ar draws GIG Cymru ar hyn o bryd yw’r Adnodd Data Cenedlaethol. Mae’n wirioneddol gyffrous meddwl y gallai fod gennym ffordd newydd cyn bo hir o rannu gwybodaeth o fewn y GIG yng Nghymru er mwyn darparu gofal iechyd gwell. Mae angen i ni allu cyflawni ein cyfrifoldebau fel un o’r nodau yn y rhwydwaith gwasgaredig hwn. Dylai fod yn hawdd i unrhyw un sy’n perthyn i deulu’r GIG gael mynediad i’n cofrestrau gwybodaeth am y rhesymau cywir.

Wrth gwrs, dim ond rhan fach o’r darlun yw alinio â GIG Cymru. Mae angen i ni rannu gwybodaeth ac alinio prosiectau â’n partneriaid yn y GIG yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae angen i ni feincnodi ein gwybodaeth â gwledydd ar draws y DU ac Ewrop, a phan fydd yna epidemigion mae angen i ni gydgysylltu’n hwylus ar draws y DU a’r byd. Po hawsaf y gallwn ei gwneud hi i bobl rannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyflym, y mwyaf o amser a fydd gennym i helpu’r cyhoedd i reoli brigiadau sydyn o afiechyd.

Cofrestrau

Gwnaethom edrych ar bob un o’n cofrestrau i ddarganfod a oedd unrhyw ddibenion craidd yn gyffredin iddynt i gyd.

Yn gyffredinol, p’un a yw’r cofrestrau’n rhai ar gyfer afiechyd neu gyflyrau, gwelsom mai un o ddibenion cyffredin pob un o’r cofrestrau a gedwir gennym yw hybu iechyd a llesiant pobl Cymru.
Ond caiff ein cofrestrau i gyd eu cadw mewn system ar wahân ar hyn o bryd. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni gasglu rhywfaint o wybodaeth lawer o weithiau a chadw gwybodaeth a gaiff ei dyblygu mewn gwahanol fannau. Rydym o’r farn y gallwn arbed amser a chael gwybodaeth well o ddarganfod y data sydd yr un fath ar draws y cofrestrau a storio hwnnw unwaith yn unig fel set gyfeirio.

Yna, gallwn roi prawf ar b’un a yw ein gwybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud gwahaniaeth. Os ydyw, byddwn yn gwybod bod parhau i’w chynhyrchu yn ddefnyddiol. Os nad ydyw, gallwn sianelu ein hymdrechion i gyfeiriad arall.

Mynediad cyfartal a theg

Rydym am rannu gwybodaeth yn effeithlon ac yn dda, fel y gwnaethom yn ystod COVID, er mwyn hybu mynediad teg a chyfartal i’n data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ar draws y GIG. Drwy ailddefnyddio ein data, gallwn leihau’r baich ar wasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth. Drwy greu a chyhoeddi catalogau da o’n data a chofnodi ein systemau a’n pensaernïaeth, gall pobl ddod o hyd i’n data pan fydd angen iddynt wneud hynny. Byddwn yn cyflwyno cytundebau rhannu a phrosesau llywodraethu clir fel y gallwn sicrhau bod mynediad yn digwydd am y rhesymau cywir a’i fod yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn effeithiol.

Y rhagdybiaeth fydd bod modd i ni rannu gwybodaeth er lles y cyhoedd, a’n cyfrifoldeb ni fydd sicrhau bod modd ei rhannu’n ddiogel. Byddwn yn dylunio o’r dechrau’n deg gan ystyried trefniadau rhannu. Wrth rannu’n agored ac yn dryloyw, rydym yn cynyddu gwerth ein gwasanaethau ac yn ennill ymddiriedaeth pobl eraill. Dyna’r ydym yn ei olygu wrth fod yn agored yn ddiofyn, ac yn ddiogel o ran dyluniad.

Bydd angen hefyd i ni sicrhau bod gwasanaethau digidol yn rhan integredig, yn hytrach nag yn rhan ar wahân, o bob gwasanaeth cyfan. Dylai’r cynnyrch a gynigir gennym fod ar gael i bawb. Ni ddylai neb yng Nghymru gael eu rhwystro neu fod yn methu â chael gwasanaethau oherwydd y ffordd yr ydym yn darparu pethau. Mae hynny’n golygu bod angen i ni ddod o hyd i fwy o ffyrdd o wrando ar bobl a allai, neu a ddylai, ddefnyddio ein gwasanaethau ond nad ydynt yn gwneud hynny.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29ain Mehefin 2026