Sesiynau meistr canol dydd
-
Diweddariad Gwybodaeth a Sgiliau ar Glefydau Heintus â Chanlyniad Pellgyrhaeddol (HCID)
Bydd y gweithdy arbennig dwy awr hwn yn nodi pwysigrwydd glynu wrth yr Atodiad ar Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer Clefydau Heintus â Chanlyniadau Pellgyrhaeddol (HCIDs) a sut mae timau Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yng Nghymru yn gweithio i gyd-fynd â dull y DU. Pan gliciwch ar y ddolen, byddwch yn cyrraedd tudalen y Llyfr Gwesteion. Ychwanegwch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost gwaith a chliciwch ar Dechrau (Start). Yna byddwch yn cael mynediad at y cwrs.
-
Rhagofalon sy’n Seiliedig ar Drosglwyddo
Ffocws y gweithdy hwn fydd y newidiadau diweddar i’r Llawlyfr Cenedlaethol ar Atal a Rheoli Heintiau: Rhagofalon sy’n Seiliedig ar Drosglwyddo. Mae’n rhoi trosolwg o’r newidiadau diweddar i’r llawlyfr, y dystiolaeth greiddiol a’r goblygiadau ar gyfer ymarfer. Pan gliciwch ar y ddolen, byddwch yn cyrraedd tudalen y Llyfr Gwesteion. Ychwanegwch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost gwaith a chliciwch ar Dechrau (Start). Yna byddwch yn cael mynediad at y cwrs.